• Cyfleoedd am Swyddi

Darlithydd/ Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Gynradd

Disgrifiad Swydd

Ar gyfer Medi 2012

Mae Ysgol Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yn chwilio am ymarferydd profiadol i gyfrannu at ddarpariaeth yr Ysgol, yn enwedig ym maes llythrennedd Saesneg a TGCh. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd  llwyddiannus gyfrannu at  y rhaglen BA Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig yn ogystal â’r cwrs Astudiaethau Addysg Gynradd.

Mae hwn yn gyfle i gyfrannu at ddarpariaeth Ysgol a Chanolfan lwyddiannus a blaengar ym maes addysg a hyfforddiant cychwynnol athrawon

Gellir cael ffurflen gais a manylion pellach am y swydd oddi wrth yr Adran Adnoddau Dynol ar 01267 676842 neu ar e-bost: humanresources@ydds.ac.uk 

 

Adran: Y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant

Lleoliad: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Campws: Campws Caerfyrddin

Cyflog: £31,948 - 44,166

Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 08.05.2012

Ffôn: 01267 676842

E-bost: humanresources@ydds.ac.uk