Meithrinfa Gwdihŵs
Campws Llambed
Ffôn: 01570 423426
Mae Gwdihŵs yn uned gofal plant bwrpasol ar y Campws a weithredir gan Undeb y Myfyrwyr yn y Brifysgol. Mae’n croesawu plant o gartrefi Cymraeg a Saesneg eu hiaith o 0-4 oed.
Mae’r Feithrinfa ar agor 8.30 a.m. – 5.30 p.m. ddydd Llun i ddydd Gwener drwy’r flwyddyn ar wahân i gyfnod dros y Pasg a’r Nadolig. Rhennir y diwrnod yn ddwy sesiwn:
8.30 a.m. - 12.15 p.m. a 1.30 p.m. - 5.30 p.m. Mae staff ar gael dros yr awr ginio a gellir darparu cinio.
Cynhelir sesiwn Cylch Meithrin bob bore i blant sy’n fwy na 2 oed. Natur y sesiynau hyn yw darparu gweithgareddau dysgu strwythuredig drwy gyfrwng y Gymraeg gyda phwyslais ar chwarae a mwynhau. Bob tymor dilynir thema o gyfres Cynllun yr Enfys a gynhyrchir gan Fudiad Ysgolion Meithrin – mudiad â grwpiau cysylltiedig ar draws Cymru. Mae rhifau, lliwiau, siapiau a sgiliau darllen ac ysgrifennu sylfaenol yn bynciau rheolaidd ym mhob un o'r themâu hyn. Dewisir gweithgareddau priodol i gyfateb i oed a gallu pob plentyn.
Mae gweithgareddau crefftau, chwarae corfforol, drama, canu a cherddoriaeth oll yn elfennau cyson yn y sesiynau. Mae croeso i rieni ac fe’u hanogir i gymryd rhan.
Cymraeg yw’r brif iaith a siaredir yn y sesiynau hyn, ond mae’r Mudiad yn gynhwysol gan groesawu plant o gartrefi Cymraeg a Saesneg eu hiaith. Mae cymryd rhan yn y sesiynau hyn yn darparu sylfaen ardderchog yn y Gymraeg cyn symud i’r Ysgol Gynradd.
Rhaid i rieni gadw lle ymhob sesiwn, gyda disgownt i 5 a 10 sesiwn yn ystod yr un wythnos.
Gofal ar ôl Ysgol
Mae Clwb Gofal ar ôl Ysgol ar gael i blant 4 oed a hŷn mewn addysg lawn amser. Gall staff Gwdihŵs gasglu plant o Ysgol Ffynnonbedr – yr ysgol leol i’r babanod a’r plant iau. Rhaid i rieni wneud eu trefniadau’u hun os ydy’u plant yn mynychu ysgolion eraill.
Cynhelir cynllun chwarae am oddeutu 4/5 wythnos yn ystod gwyliau’r haf ac yn ystod yr holl wyliau eraill, gan gynnwys hanner tymor yr ysgolion. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys teithiau diwrnod amrywiol, cerdded, nofio, gwaith crefft ac yn yr haf gwersylla.
Sylwer bod y Cynllun Chwarae’n boblogaidd iawn felly cadwch le yn gynnar!!
Cymdeithas y Teulu
Nod Cymdeithas y Teulu yw bod yn fan cyfarfod i fyfyrwyr sy’n rhieni a’u plant, ynghyd â chymorth ymarferol megis defnyddio bws mini’r Brifysgol ar gyfer teithiau siopa, teithiau diwrnod a gwyliau byr ar hyd cyfnod y gwyliau.


