Y Swyddfa Ymchwil a Datblygu
Mae’r Swyddfa Ymchwil a Datblygu yn cefnogi gweithgareddau’r Brifysgol yn ei hymwneud â busnesau, ac yn cydlynu gweithgareddau ymchwil yn unol â'r amcanion strategol cyffredinol ar gyfer y Brifysgol ac, yn ehangach, yr amcanion ar gyfer y sector Addysg Uwch yng Nghymru.
Mae’r Swyddfa yn cynnig man cyswllt cychwynnol i fusnesau i archwilio posibiliadau ar gyfer cydweithio â’r Brifysgol trwy wasanaethau ymgynghori, partneriaethau ymchwil, partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth neu wrth gymryd rhan mewn prosiectau.
I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau’r Swyddfa Ymchwil a Datblygu yn ei hymwneud â busnesau, ewch i’n tudalennau busnes.
I gael gwybodaeth am ymchwil academaidd yn y Brifysgol, gweler ein tudalennau Ymchwil


