Sefydliad Cynaliadwyedd Cymru
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (YDDS) yw’r brifysgol newydd yng Nghymru a ddaeth i fod yn sgil uno Coleg Prifysgol y Drindod yng Nghaerfyrddin a Phrifysgol Llambed.
Mae’r Brifysgol yn adeiladu ar draddodiad cyfoethog o ymwneud â’r agenda ynghylch ADCDF a chynaliadwyedd ehangach ar y ddau gampws. Yn unol â'r traddodiad hwn, mae'r brifysgol newydd eisoes yn datblygu ac yn cynnig nifer o raglenni sy’n gysylltiedig ag ADC – gan gynnwys BSc Green Information Technology a BA Managing Civil Society Organisations – gan ymwneud â gweithgarwch ar brosiectau sy’n cyffwrdd â’r agenda ynghylch cynaliadwyedd, er enghraifft Partneriaeth Cyfnewid Gwybodaeth sy’n ymchwilio i effeithiau cymdeithasol-economaidd y gwaith o Gynhyrchu Ynni Adnewyddadwy ar y Môr. Un o'r amcanion strategol yn y lle cyntaf yw creu Sefydliad Cynaliadwyedd a fydd yn mynd i’r afael â chynaliadwyedd a phob agwedd arno mewn modd cyfannol, gan ehangu’r cyrsiau a ddarperir a helpu i ymgorffori ADC ar draws y brifysgol. Mae nifer o resymau dros hyn ond dyma rai ohonynt –
a) O ganlyniad i leoliad daearyddol a gwledig y ddau gampws ynghyd â’u maint a’r cysylltiadau cryf â’r gymuned, mae YDDS mewn sefyllfa ddelfrydol i addysgu cynaliadwyedd yn ogystal â'i harddangos yn y modd y gweithreda'r brifysgol. Oherwydd y traddodiad cryf o Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yng Nghaerfyrddin mae mewn sefyllfa dda i ailgyfeirio addysg yn ystod cyfnod hyfforddi athrawon a thrwy hynny leihau’r amser ymateb sydd ei angen er mwyn cyflawni cynaliadwyedd.
b) Mae’r brifysgol wedi sicrhau buddsoddiad gwerth miliynau gan y llywodraeth i ddatblygu’r campws a’r ddarpariaeth. Dyluniwyd pob un o’r prosiectau cyfalaf newydd – gan gynnwys ailwampio’r prif adeilad gweinyddol yng Nghaerfyrddin a bloc addysgu a dysgu newydd, gyda’r nod o gynnwys deunyddiau adeiladu cynaliadwy a ffynonellau ynni amgen. Yn y modd hwn, bydd yr amgylchedd cyfan yn ategu'r gwaith o droi cynaliadwyedd yn realiti i fyfyrwyr sy’n astudio yn YDDS.
c) Mewn amgylchedd sy'n fwy a mwy cystadleuol ym maes addysg uwch, mae angen i'r brifysgol ddiogelu'i chynaliadwyedd ei hun trwy gynnig cyrsiau sy'n manteisio ar ei chryfderau allweddol ac sy'n ddeniadol i ddarpar fyfyrwyr o bob oed sydd am astudio yn ne-orllewin Cymru. Am fod prif yrwyr cynaliadwyedd yn cwmpasu canlyniadau cymdeithasol ac ecolegol gweithgarwch economaidd, maent yn gweddu i’r dim i’r ardal lle ceir YDDS.
d) Er mai dim ond ym mis Tachwedd 2010 y ffurfiwyd YDDS yn swyddogol, mae’r brifysgol newydd eisoes wedi cymryd nifer sylweddol o gamau i’w sefydlu ei hun yn sefydliad sydd am ddangos arweiniad ym maes ADC. Yn eu plith mae’r canlynol:
- Penodi Peter Davies (Comisiynydd Cynaliadwyedd a Chadeirydd Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd) yn Athro Ymarfer yn y Brifysgol
- Llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ddiweddar rhwng y brifysgol a RICS – gyda sêl bendith Tywysog Cymru – i weithio ar y cyd i wella cynaliadwyedd cefn gwlad a dulliau rheoli tirwedd Cymru.
Gweledigaeth y brifysgol yw creu Sefydliad Cynaliadwyedd sy’n denu pobl i gymryd rhan ac sy’n ennyn clod, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yn hytrach nag ystyried ei lleoliad yn anfantais, byddai pobl i'r gwrthwyneb yn dod i weld bod hwn yn amgylchedd delfrydol i gynnal ac ymgorffori astudiaethau o’r fath ynddo. Gan adeiladu ar y cyrsiau a ddarperir ar hyn o bryd – mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus, TG Werdd, Treftadaeth Ddiwylliannol, Cyfiawnder Cymdeithasol ac ati – bydd y Sefydliad yn arloesi trwy fynd ati mewn modd amlddisgyblaethol newydd.
Golyga gweledigaeth Y Drindod Dewi Sant am brifysgol sector deuol – sy’n cyfuno AU ac AB yn yr un rhanbarth daearyddol – fod modd i’r brifysgol ymgorffori cynaliadwyedd ar bob lefel, yn ymarferol ac yn ddamcaniaethol. Yn ogystal, bydd yr uno arfaethedig â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe, sydd ag arbenigedd ym maes peirianneg, dylunio a rheoli adnoddau yn cynnig dull o ddysgu sy’n un mwy cyfannol ac amlddisgyblaethol o lawer. Ar y cyd â’r sefydliadau sy’n bartneriaid iddi ym maes AU ac AB, un o’r amcanion allweddol fyddai ymgorffori holl ystod y ddarpariaeth sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd ac sy’n cwmpasu ecoleg a’r amgylchedd, rheoli adnoddau, addysg ac economeg defnyddio a chynhyrchu yn ogystal â thechnoleg, ynni amgen a dimensiynau sefydliadol ac ysbrydol. Gan ei bod ar ddechrau’r broses hon, mae gan y brifysgol botensial unigryw i ddatblygu a threialu arferion arloesol ar draws sbectrwm addysg, o Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon trwy AB ac AU i addysg oedolion, yn ogystal â thrwy gyfrwng ymchwil ac ymwneud â busnesau a'r gymuned.
Rhaid hefyd nodi bod potensial sylweddol hefyd i gyplysu hyn ag Economeg Datblygu, unwaith eto ar y cyd â ‘phartneriaid ymarfer’ megis, er enghraifft, Cymdeithas y Pridd, Canolfan y Dechnoleg Amgen neu Practical Action, a thrwy hynny gynnig yr arbenigedd hwn yn y farchnad ryngwladol. Mae sefydliadau newydd yn y Dwyrain Pell ac isgyfandir Affrica eisoes yn dangos diddordeb, ac mae seilwaith gwledig y Brifysgol sy’n seiliedig ar y gymuned yn ei wneud yn berthnasol dros ben i’r rheini mewn gwledydd sy’n datblygu ac sydd am ymwneud â dysgu gweithredol.
Bydd dwy wedd i amcanion y Sefydliad Cynaliadwyedd:
1. Cynnig cwricwlwm blaengar o ran ei ddatblygiad a’r dull o’i haddysgu i fyfyrwyr ar draws y sbectrwm addysg o HCA i addysg oedolion ac addysg barhaus sy’n gwneud y canlynol:
- sicrhau bod myfyrwyr y Brifysgol yn cael y wybodaeth, sgiliau a’r agweddau a fydd yn eu galluogi i wneud cyfraniad yn y dyfodol i'r economi, y gymuned a'r amgylchedd, e.e.
- Creu cymunedau iachach, mwy diogel lle mae busnesau, sefydliadau lleol a’r llywodraeth yn cydweithio’n effeithiol i ddatrys problemau cyffredin
- Cynnwys cyfiawnder cymdeithasol a lles yn eu gwaith eu hunain trwy fynd ati i ddatrys problemau o safbwynt cyfannol, cydlynol.
- Defnyddio dychymyg a chreadigrwydd i gau’r bwlch rhwng yr hyn sydd a’r hyn sydd ei angen.
2. Creu sefydliad ymchwil a datblygu blaengar sy’n gwneud y canlynol:
- datblygu de-orllewin Cymru yn economi gynaliadwy, carbon isel trwy gynnig ffocws ar gyfer datblygiad busnesau, arloesi ac ymchwil
- cefnogi cymunedau yn y rhanbarth a ledled Cymru i ddatblygu cynlluniau a gweithgarwch i hwyluso’r symud at gymunedau carbon isel, cynaliadwy
- creu canolfan fyd-eang sydd â chysylltiadau â sefydliadau tebyg a sefydliadau datblygu


