Academi Llais Ryngwladol Cymru

Bydd Academi Llais Ryngwladol Cymru yn gweithio gyda nifer dethol o gantorion o bob cwr o’r byd, dan gyfarwyddyd y tenor enwog o Gymru, Dennis O’Neill CBE, ac artistiaid o fri cenedlaethol a rhyngwladol. 

WIAV Logo

Mae’n bleser gennym gyhoeddi fod Y Fonesig Kiri Te Kanawa wedi cytuno i fod yn Llywydd Anrhydeddus a chyfrannu at y rhaglen addysgu.

Gwybodaeth am yr Academi

Mae’r genhedlaeth newydd o gantorion opera yn wynebu proffesiwn masnachol sy’n gofyn mwy ac sy’n symud yn gynt na’r hyn a welwyd yn y gorffennol.

Y Weledigaeth

Gan gydnabod ei lwyddiant cynharach yn y maes, estynnodd y sefydliad newydd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wahoddiad i Dennis O’Neill sefydlu Academi Llais Ryngwladol.

MA mewn Astudiaethau Lleisiol

Yn sgil y ffaith mai nifer cyfyngedig o fyfyrwyr a dderbynnir i’r Academi, bydd yn medru gweithredu rhaglen ddwys a phersonol.  

Noddwyr a Chefnogwyr

Mae’r Academi’n gobeithio denu nifer o noddwyr cenedlaethol a rhyngwladol arwyddocaol er mwyn cynnig ysgoloriaethau yn y dyfodol.

Dennis O'Neill

Yn enedigol o Gymru, mae Dennis O'Neill wedi mwynhau gyrfa hir fel un o brif denoriaid Operatig y byd gan ymddangos gyda phob un o gwmnïau mawr y byd.

Mwy o Wybodaeth

Y Cyfarwyddwr, Academi Llais Ryngwladol Cymru, 7 Guildford Street, Caerdydd CF10 2HL

Ffon: 02920 359396 E-bost: h.thapan@tsd.ac.uk