Byddwch yn rhan o’r stori

Mae tudalennau cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn hyrwyddo cysylltiadau rhwng y Brifysgol a'n graddedigion. Mae aelodaeth yn awtomatig i fyfyrwyr blaenorol.
Lle bynnag y byddwch chi, a beth bynnag y byddwch chi’n ei wneud, mae diddordeb gwirioneddol gennym yn eich cynnydd, a hoffem gadw mewn cysylltiad â chi.
Mae Swyddfa’r Cyn-fyfyrwyr yn cynnal cysylltiadau â graddedigion a dyma fan cyswllt ar gyfer pob ymholiad yn gysylltiedig â chyn-fyfyrwyr. Cofiwch am ein tudalen facebook a twitter!
Llunie graddio 2011 yma...
Mae Swyddfa’r Cyn-fyfyrwyr yn cynnal cysylltiadau â graddedigion a dyma fan cyswllt ar gyfer pob ymholiad yn gysylltiedig â chyn-fyfyrwyr. Os ydych chi wedi symud a heb roi gwybod i ni am eich cyfeiriad newydd, hoffem glywed gennych chi’n fawr iawn.
A wnewch chi anfon manylion eich enw, blwyddyn raddio, cwrs gradd a chyfeiriad newydd atom ar e-bost os gwelwch yn dda, er mwyn i ni allu newid manylion y gronfa ddata. Hefyd, a wnewch chi ofyn i ffrindiau sy’n dal i gysylltu â chi wneud yr un peth.
Yn anffodus, ni allwn ddatgelu manylion cysylltu cyn-fyfyrwyr rydych chi’n ceisio adnewyddu cysylltiad â nhw. Fodd bynnag, anfonwn negeseuon ymlaen, felly anfonwch eich llythyron ar e-bost neu bapur atom, gyda manylion yr unigolyn/unigolion yr hoffech i ni anfon y neges ato/atynt.


