Cymdeithas Llambed

Digwyddiadau ac Aduniadau

Cinio Blynyddol Cangen Llundain

Cynhelir Cinio Blynyddol Cangen Llundain o Gymdeithas Llambed yn y Clwb Rhyddfrydol Cenedlaethol, Whitehall Place, Llundain, SW1A 2HE ar Dydd Gwener 8 Mehefin 2012 ac mae’n agored i gyn-fyfyrwyr, eu ffrindiau, partneriaid neu unrhyw un sy'n teimlo gysylltiad â champws Llambed.

Manylion pellach Cinio Blynyddol Cangen Llundain 2012

Dylid anfon yr holl ohebiaeth at: Richard Haslam, 29 Gilbert Street, Enfield, EN3 6PD neu drwy e-bost at rhaslam@hotmail.com erbyn dydd Gwener 1 Mehefin, 2012

Penwythnos Aduniad Flynyddol Cymdeithas Llambed
Bydd Penwythnos Aduniad Flynyddol Cymdeithas Llambed 2012 ar 13 -15 Gorffennaf 2012.

Mae 2012 yn flwyddyn arbennig i’r Gymdeithas: wrth iddi ddathlu 75 mlynedd, carreg filltir nodedig yn ei hanes.

Meddai Profost Campws Llambed, yr Athro Densil Morgan:

"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bu llawer o ddatblygiadau cyffrous gan gynnwys adnewyddu adeiladau ar gampws Llambed a bydd penwythnos yr aduniad yn gyfle i roi gwybod sut y mae gwerthoedd unigryw ac ethos Llambed yn cael eu dathlu gan y genhedlaeth newydd o fyfyrwyr sy'n astudio yma.

"Bydd y penwythnos yn gyfle i chi gyfarfod â’ch cyfoedion a gobeithiwn y medrwch gynorthwyo’r Gymdeithas i rannu’r wybodaeth am yr aduniad er mwyn sicrhau y daw cynifer â phosib yn ôl atom.

Bydd manylion am yr aduniad yn rhifyn nesaf y cylchgrawn Link.

Cinio Cangen Llundain

Cynhelir cinio blynyddol Cangen Llundain Cymdeithas Llambed ddydd Gwener 3 Mehefin 2011. Bydd ffurflenni archebu ar gael ar y wefan hon ym mis Mawrth 2011.

Yr Aduniad Blynyddol

Cynhelir aduniad blynyddol 2011 Cymdeithas Llambed dros benwythnos 22 – 24 Gorffennaf 2011, sef yr un penwythnos â Ffair Fwyd Llambed. Bydd ffurflenni archebu yn cael eu dosbarth gyda’r cylchgrawn The Link a byddant ar gael ar y wefan hon ym mis Mawrth 2011.

I weld lluniau Adrian Gaunt o Ad-uniad Cymdeithas Llambed yn 2010, cliciwch yma…

Ad-uniad Cymdeithas Llambed 2010