Cymdeithas Llambed

Newyddion

Er cof am Tony Brothers
Tristwch mawr yw gorfod nodi marwolaeth Tony Brothers ar ddydd Mawrth 25 Hydref 2011. Rhoddodd Tony wasanaeth rhagorol i'r sefydliad fel Darlithydd yn y Clasuron yn y Brifysgol o 1964-2009. Bu yn ymwneud yn benodol ag ymchwil mewn comedi Rhufeinig, pensaernïaeth Roegaidd a Rhufeinig, crefydd Rufeinig, ac arteffactau a gedwir yng Nghasgliadau Arbennig y Brifysgol. Mwy...

Mae un o raddedigion Llambed, Nicholas Groves (MA 2000, PhD 2008) wedi cyhoeddi The Medieval Churches of Norwich yn 2010.  Wedi'i ddisgrifio fel “A beautiful and definitive new guidebook on Norwich's outstanding collection of medieval churches”, datgela’r llyfr y set o eglwysi trawiadol sydd yn Norwich, a dathla’r eglwysi fel gweithiau celf o’r oesoedd canol, dogfennau cymdeithasol gwerthfawr, ac addoldai hynafol.   Mae’r llyfr wedi gwerthu’n dda iawn yn lleol, ac enillodd ddosbarth Hanes a Thraddodiad yng Ngwobrau Llyfrau East Anglia a drefnir gan Jarrold a’r Eastern Daily Press.  Mae'r llyfr ar gael o’r cyhoeddwr Norwich Heart  neu Amazon .   Nicholas hefyd yw awdur The Academical Robes of St David's College Lampeter (1822 - 1971), a gyhoeddwyd ac sydd ar gael gan y Brifysgol.

Hyfforddiant am ddim ar gyfer graddedigion.  Gwellwch eich CV a’ch rhagolygon gyrfa drwy ennill sgiliau ymarferol, wedi’u cydnabod gydag Academi’r Graddedigion. Neu rhowch eich syniadau busnes ar waith a datblygu eich gyrfa lawrydd gydag Academi’r Gweithwyr Llawrydd.

Llongyfarchiadau i Andrew White (gradd. 1994 a Llywydd Undeb y Myfyrwyr 1994-95) ar gael ei benodi'n Gyfarwyddwr Stonewall Cymru.

Llongyfarchiadau i John Paine a raddiodd o Lambed ym 1962. Fe’i dewiswyd yn gymrawd anrhydeddus o Gymdeithas y Saesneg eleni. Ewch i wefan Cymdeithas y Saesneg am wybodaeth bellach: www.le.ac.uk/engassoc.

Rob Phillips

Llongyfarchiadau i un o raddedigion Llambed, Rob Phillips (gradd. 1998 ac i’r dde) am ddod yn Faer Llambed ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Llongyfarchiadau i un arall o raddedigion Llambed, Karl McCartney (gradd. 1991) am gael ei ethol yn Aelod Seneddol dros Lincoln. Credwn mai dyma’r tro cyntaf i un o raddedigion Llambed gael ei ethol i Dŷ’r Cyffredin, ond os ydym yn anghywir rhowch wybod i ni.

Hoffai Cangen Llundain Cymdeithas Llambed eich gwahodd yn wresog i'w Chinio Blynyddol. Dyma ddigwyddiad sy’n agored i bob cyn-fyfyriwr, yn ogystal â’u ffrindiau a’u partneriaid. Cynhelir y digwyddiad yn y National Liberal Club, Whitehall Place, Llundain, SW1A 2HE nos Wener 4 Mehefin 2010. Y siaradwr gwadd eleni yw Is-Ganghellor Llambed a darpar Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Dr Medwin Hughes.

Mae Google maps wedi ychwanegu golygfa o strydoedd Llambed a rhan o gampws y Brifysgol. Ewch am dro yn ôl i'r gorffennol a gweld yr hyn sydd wedi newid a'r hyn sy'n fythol ran o Lambed!

Llongyfarchiadau i Gillian Body, un  o raddedigion Hanes Llambed ym 1980, am ei phenodi’n Archwilydd Cyffredinol dros dro yn Swyddfa Archwilio Cymru.

Archif Newyddion