Cyn-fyfyrwyr Coleg y Drindod

Aduniad y Cyn-fyfyrwyr 2007

Merched 1957 gyda Is-Gadeirydd Cyngor Y Coleg, Dr John Walters a'r Prifathro Dr Medwin Hughes. Ar y 15 a'r 16 Medi, cynhaliwyd aduniad yng Ngholeg y Drindod i ddathlu hanner can mlynedd ers i ferched gael eu derbyn i’r Drindod yn 1957.

Ar ddydd Sadwrn, mwynhawyd diwrnod bendigedig gan bawb, a bendithiwyd y cyfan gan dywydd braf. Dechreuodd gweithgareddau’r penwythnos gyda chinio bwffe yng nghwmni Maer Tref Caerfyrddin, lle croesawyd merched arloesol 1957 yn ôl i Gaerfyrddin gyda darn o ryddiaith oedd yn cymharu’r oesau.

Dr Mererid Hopwood gydai gwr Mr Martin Hopwood Am 2.00 y prynhawn cynhaliwyd gwasanaeth i gofio 1957 yng Nghapel y Coleg dan arweiniad Caplan y Coleg, y Parch. Ainsley Griffiths. Adroddwyd datganiadau gan Mrs Sue Davies, Pennaeth Ysgol Astudiaethau Addysg a Chynhwysiant Cymdeithasol a chyn-fyfyrwraig ei hun a’r Prifathro Dr Medwin Hughes. Cafwyd datganiad cerddorol hyfryd gan Miss Carys Davies, myfyrwraig o’r ail flwyddyn dan gyfarwyddyd ei thiwtor a’i chyfeilydd, Mr Euros Rhys Evans. Dilynwyd y gwasanaeth gan gynulliad arbennig i dderbyn Dr Mererid Hopwood a Mr Peter Hughes Griffiths fel cymrodyr anrhydeddus o’r Coleg i ddiolch iddynt am eu cyfraniad i fywyd y Coleg a’r gymdeithas ehangach. Ms Menna Elfyn gyflwynodd Dr Mererid Hopwood gyda’i anrhydedd a’r Parch. Tom Evans gyflwynodd Mr Peter Hughes Griffiths gyda’i anrhydedd ef. Rhoddwyd cyfarchion gan Is-Gadeirydd Cyngor y Coleg, Dr John Walters.

Mr Peter Hughes Griffiths gydai wraig Mrs Meinir Lloyd Yn hwyrach yn y prynhawn, bu’r haneswyr Dr Russell Grigg a Mr Conway Davies yn cynnal ‘Myfyrdodau o’r Drindod’ lle gwahoddwyd cyn-fyfyrwyr i recordio’u hatgofion o’r Drindod ar ffilm. Roedd llawer yn cofio’u hamser yn y Coleg fel petai’n ddoe gan dalu teyrnged i’r rhai sydd bellach wedi mynd neu a fethodd bod yn rhan o’r dathliadau. Mi fydd DVD o’r digwyddiad ar gael am £17.50, ac os hoffech gopi cysyllter ag Owain Davies, Swyddog Gweinyddol Marchnata a Chymdeithas y Cyn-fyfyrwyr ar 01267 676767 neu drwy e-bostio - alumni@ydrindoddewisant.ac.uk.

Ar ôl hel atgofion melys, arweiniodd y Prifathro’r gwesteion o gwmpas y Coleg lle ymhyfrydodd cyn-fyfyrwyr ar wedd newidiad y Coleg dros y blynyddoedd a sut y mae’n cynnig cyfleusterau dysgu a chymdeithasol niferus i’r myfyrwyr presennol. Cafodd y gwesteion gyfle hefyd i weld ‘Y Llwyfan’ - y Ganolfan Fentergarwch Ddiwylliannol newydd, gan synnu ar yr adeilad prydferth a’r golygfeydd hyfryd y mae’n cynnig.

Grwp o gyn-fyfyrwyr yn hel atgofion wrth edrych ar hen luniau Croesawyd Llywydd y Coleg, y Gwir Barch. Carl Cooper i ddweud rhai geiriau ar ddechrau’r cinio nos a gynhaliwyd yn Ystafell Cothi Canolfan Halliwell, cyn i Constance Eileen Edwards (King gynt), llywydd cyntaf y merched ar Gyngor y Myfyrwyr, i ddweud ambell air ar ran y merched cyntaf y Drindod. Yn ei haraith nododd unigrywiaeth ei chenhedlaeth yn hanes y Coleg. Dywedodd “Yr oeddem ni bron y diwethaf i gael unrhyw atgof o’r Ail Ryfel Byd a gyda’r cyntaf i gael ein magu dan y Wladwriaeth Les. ‘Roeddem ni hefyd gyda’r olaf i gael plentyndod yn rhydd o deledu ac o’r herwydd yn weddol hyddysg a’n groyw. Roeddem ni’n cofio dogni ond hefyd ymysg y “teenagers” cyntaf, gyda’n dillad nodedig ein hunain - y jîns, cotiau dyffl, sanau goleuog, gwastau ‘waspie’ a haenau o beisiau wedi ei startsio. Yr oeddem hefyd yn mwynhau’r math o gerddoriaeth yr oedd ein rhieni’n ei gasáu ac yn meddu ar gylchgronau a llyfrau ein hunain gan greu grŵp nodedig o fewn cymdeithas.”

Bu hefyd yn sôn am y camsyniadau a oedd yn gysylltiedig gyda’r merched cyntaf – “Mae chwedlau wedi dechrau mai yn ystod y 1960au y dechreuodd diwylliant ieuenctid a bod menywod cyn y 1970au ddim â diddordeb mewn gyrfaoedd. Yr oedd yr holl ferched a oedd yn fyfyrwyr yn disgwyl gweithio. Y disgwyliad oedd ein bod ni’n dechrau ar yrfa oes.”

Dilynwyd geiriau Mrs Edwards gan y siaradwr gwadd Mr Peter Hughes Griffiths, cyn-fyfyriwr o’r Drindod a dderbyniodd gymrodoriaeth anrhydeddus o’r Coleg yn ystod y prynhawn. Yn ei araith cyfeiriodd at unigolion a chyplau oedd yn bresennol gan atgofio’r amseroedd a fu yn y Drindod.

Fore Sul, cynhaliwyd gwasanaeth yng Nghapel y Coleg dan arweiniad medrus y Parch. Ainsley Griffiths a dilynwyd y gwasanaeth gan ginio Sul dau gwrs. Mynychodd plant y diweddar Canon Brifathro Halliwell - Tom Halliwell a’i wraig Annie, a’i chwaer Nona Rees yn ystod dydd Sul, oedd yn gydnabyddiaeth addas i waith a chof eu tad.

Flwyddyn nesaf, bydd y Coleg yn dathlu 50 mlynedd o fyfyrwyr 1958, pan fu'r chwaraewr rygbi enwog – y diweddar Dewi Bebb yn fyfyriwr yn y Drindod. Mae hefyd cais i geisio denu cymaint o fyfyrwyr ag sy’n bosib o’r 1960au, felly os ydych yn gyn-fyfyriwr o’r Drindod, neu’n gwybod am unrhyw un sy’n gyn-fyfyrwyr, pasiwch y wybodaeth ynghylch yr aduniad. alumni@ydrindoddewisant.ac.uk