Cyn-fyfyrwyr Coleg y Drindod

Adroddiad gan Gwen Harris (Morgan gynt)

14 Mai 2008

Gwen Harris (Morgan gynt), Jean Parry-Williams (Morgan gynt), Awen Harries (Jones gynt), Morfydd Morgans (Evans gynt) Rhai blynyddoedd yn ôl dechreuodd tair o’r merched cyntaf a ddaeth i’r Drindod yn 1957 – Mercia Thomas (Davies gynt), Gillian Jenkins (Gravell gynt) a Gwen Harris (Morgan gynt) – gyfarfod â’i gilydd unwaith y flwyddyn yng Nghaerfyrddin.  Erbyn hyn, mae’r grŵp bach hyn wedi cynyddu ac yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn.

Lluniau: Gwen Harris (Morgan gynt), Jean Parry-Williams (Morgan gynt), Awen Harries (Jones gynt), Morfydd Morgans (Evans gynt)

Ar Ebrill 11eg daeth deuddeg ohonyn nhw at ei gilydd - rhai o Sir Gâr, rhai o Geredigion ac un o Abertawe, yng Ngwesty’r Llwyn Iorwg.  Coffi yn gyntaf, ac amser i ddal lan ar unrhyw newyddion yn enwedig am gyd-fyfyrwyr sydd mewn cysylltiad â nhw neu’n byw yn yr un ardal.

Ar ôl hynny, hel atgofion dros bryd o fwyd gyda lluniau myfyrwyr y Coleg 1957 - 1959, yn dod yn handi i roi wyneb ar unrhyw enw bydd efallai ddim mor gyfarwydd, neu ddim yn dod i’r cof.

Ar ôl llwyddiant mawr aduniad cyn-fyfyrwyr y Drindod y flwyddyn ddiwethaf, penderfynodd y grŵp gyfarfod â’i gilydd yn yr aduniad nesaf yn y Coleg ym mis Medi yn hytrach na chyfarfod ym mis Hydref fel arfer.

Diolchwyd i Mercia Thomas am drefnu’r ystafell yn y Llwyn Iorwg ar gyfer yr achlysur unwaith eto.  Gadawodd y grŵp gan deimlo hanner can mlynedd yn iau ar ôl ychydig o oriau yn chwerthin a chofio'r amser hapus yn y Drindod yn y 1950au a chan edrych ymlaen yn fawr at gyfarfod â rhagor o ffrindiau yn yr aduniad blynyddol ym mis Medi.

Sheila, Gloria, Jean, Catherine, Gwen, Jean, Mercia, Georgina, Morfydd, Jean, Awen, Gill

Lluniau: Sheila, Gloria, Jean, Catherine, Gwen, Jean, Mercia, Georgina, Morfydd, Jean, Awen, Gill

Georgina Thomas (née Davies), Gill Jenkins (née Gravell), Mercia Thomas (née Davies), Gloria Davies (née Gunning)

Lluniau: Georgina Thomas (Davies gynt), Gill Jenkins (Gravell gynt), Mercia Thomas (Davies gynt), Gloria Davies (Gunning gynt)

Jean Jones (née Jenkins), Jean Thomas (née Lloyd), Sheila Evans (née Thomas), Catherine Ramage (née Williams), Georgina Thomas (née Davies)

Lluniau: Jean Jones (Jenkins gynt), Jean Thomas (Lloyd gynt), Sheila Evans (Thomas gynt), Catherine Ramage (Williams gynt), Georgina Thomas (Davies gynt).