Cyn-fyfyrwyr Coleg y Drindod
Aduniad y Cyn-Fyfyrwyr 2008
Yn ystod dathliadau aduniad cyn-fyfyrwyr Coleg y Drindod, coffawyd un o fawrion y Drindod a Chymru pan gysegrwyd ffenestr liw yn Rhag-gapel Coleg y Drindod er cof am Norah Isaac. Dyluniwyd a gwnaethpwyd y ffenestr gan yr artist o Gaerfyrddin, Gareth Morgan, ac mae’n darlunio hanes Cristnogaeth yng Nghymru drwy ganolbwyntio ar rai o ffigurau amlycaf y ffydd a fu o bwysigrwydd i’w hanes. Meddai’r Prifathro, Dr Medwin Hughes “Bu’r Coleg yn awyddus i nodi cyfraniad hynod Norah Isaac nid yn unig i Goleg y Drindod ond hefyd i Gymru. “Mae’r ffenestr yn deyrnged addas i Norah gan ei bod yn portreadu’r rheiny a fu’n bwysig iddi hi. Eu cyfraniad hwy i’r ffydd yng Nghymru a ddiffiniodd ei bywyd”.
Llun: Yr Hybarch Alun Evans, Dr Medwin Hughes, Y Parchedig Ainsley Griffiths, Gareth Morgan, Mrs Selina Jones, Peter Hughes Griffiths, a’r Parchedig Lyn Rees.
Comisiynwyd yr artist Gareth Morgan i ddylunio’r ffenestr, y gŵr a gafodd y gwaith o ddylunio ffenestr arall sydd i’w chanfod yng Nghapel y Coleg i goffau hanes Llyfr Du Caerfyrddin - ffenestr a gomisiynwyd gan Norah ei hun rai blynyddoedd yn ôl.
Dywedodd Gareth Morgan “. . . Dewisais ddelio gyda’r thema drwy ddyfeisio collage o elfennau symbolaidd ynghyd â ffigurau arwyddocaol sy’n gysylltiedig â thwf Cristnogaeth yng Nghymru. Trefnais wrthgyferbyniadau rhwng arwynebau o baentio manwl a rhai ‘clir’, rhwng darnau lled dryloyw sydd wedi’u chwythellu â thywod a darnau gwydr hynafol sy’n pefrio yn eu tryloywder.
Dywedodd Gareth Morgan – “Fel elfen addurnol i uno’r paneli, rwyf wedi defnyddio patrymau wedi’u hysbrydoli gan y croglenni sydd yn nodweddu abatai ac eglwysi cynnar Cymru ac sydd wedi goroesi mewn sawl man. Fy mwriad hefyd oedd y gallai elfennau’r ffenestr awgrymu twf wrth iddynt ymestyn allan o ‘foncyff’ cul ar y gwaelod. Mae’r arwynebau tryloyw yn caniatáu inni gael cipolwg ar fyd natur y tu allan, a’i dynnu mewn i’r ffenestr. Mae’r arwynebau hyn hefyd yn caniatáu i bobl bresennol y Coleg, yn ogystal â rhai'r dyfodol, ‘breswylio’ yn y ffenestr a rhannu ei neges.”
Yn ystod y gwasanaeth dathlu cafwyd darlleniadau gan Mr Malcolm Jones a’r Prifathro Dr Medwin Hughes o flaen pregeth Caplan y Coleg, y Parchedig Ainsley Griffiths. Cafwyd anerchiadau gan Mr Peter Hughes Griffiths a Mr Gareth Morgan a datganiadau cerddorol gan Hannah Owen Griffiths. Cysegrwyd y ffenestr gan Archddiacon Caerfyrddin, Yr Hybarch Alun Evans.
Roedd Norah Isaac yn enwog drwy Gymru fel awdur, cynhyrchydd dramâu a phrifathrawes gyntaf Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn 1939. Yn ogystal â bod yn un o ffigurau amlycaf llenyddiaeth Cymru, bu’n ffigwr ganolog i’r Eisteddfod Genedlaethol a fu’n greiddiol i’w bywyd ers yn adroddwraig ieuanc i fod yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Caerfyrddin yn 1974. Yn 1988 daeth yn ferch gyntaf i’w dyrchafu yn Gymrawd o’r Eisteddfod Genedlaethol. Hi sefydlodd yr Adran Ddrama Gymraeg gyntaf yng Nghymru yma yn y Drindod, gan osod seiliau i draddodiad yn y celfyddydau perfformio sy’n parhau hyd heddiw. Ymysg ei chyn-fyfyrwyr mae Cefin Roberts, Cyfarwyddwr Artistig ‘Theatr Genedlaethol Cymru’, a Peter Hughes Griffiths, cyn-aelod o staff sydd hefyd yn Gymrawd Anrhydeddus o’r Coleg.
Yn ystod y cinio nos, bu'r gŵr gwadd y Parchedig Eldon Phillips yn sôn am hanes rygbi'r Drindod wrth ganolbwyntio ar ein mawrion, yn eu mysg y diweddar Dewi Bebb a ddaeth i'r Coleg fel myfyriwr hanner can mlynedd yn ôl, a Barry John - o bosib un o'r chwaraewyr gorau a welodd y gêm erioed. Enillodd ill dau eu capiau cyntaf i Gymru tra yn y Drindod. Llwyddodd dau o fawrion y Drindod, C. Lynn 'Cowboi' Davies a Horace Phillips i fod yn bresennol yn ystod y cinio nos. Yn bresennol hefyd oedd gweddw Dewi Bebb, Morwen a'i dau fab, Gareth a Siôn. Mae Eldon, sy'n gyn-fyfyriwr ac yn gyn-aelod o staff, yn gaplan i dîm rygbi’r Scarlets yn ogystal â swyddog i'r wasg ar gyfer Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu ar hyn o bryd. Siaradodd Peter Hughes Griffiths ar ran y Prifathro gan nad oedd ef wedi medru bod yn bresennol. Soniodd am un o'i gyd-fyfyrwyr, sef Dewi Bebb a sut fu'n un o ffefrynnau Norah Isaac oherwydd ei dad Ambrose Bebb - un o fawrion llenyddiaeth ein Cenedl. Dywedodd hefyd er nad oedd hi'n hoff o rygbi, pan enillodd Dewi ei gap cyntaf dros Gymru, aeth Norah i wylio gyda balchder mawr.
Llun: Dewi Bebb
Bu'n noson ysblennydd lle rhannwyd llawer o atgofion rhwng y rhai a oedd yn bresennol.
Dyddiad aduniad blwyddyn nesaf yw 11-13 Medi.

