Cyn-fyfyrwyr Coleg y Drindod

Myfyrwyr 1957 yn cwrdd unwaith eto

21 Ebrill 2008

Adroddiad gan Constance Eileen Edwards (King gynt)

Myfyrwyr 1957 Mae bwyty’r Clwb Golff yn Nhrefynwy yn dechrau dod yn fan cyfarfod rheolaidd ar gyfer cinio blynyddol myfyrwyr y Drindod 1957-59. Fel arfer, bu’n achlysur llawn bwrlwm, gyda digonedd o chwerthin a hanesion am ddigwyddiadau’r flwyddyn. Mae croeso i unrhyw un o’r cyfnod ymuno yn y dathliadau a gallwch gysylltu â Marjorie Parsons, Yates gynt, drwy swyddfa’r cyn-fyfyrwyr i gael dyddiad cinio blwyddyn nesaf. Methodd nifer o bobl â mynychu’r digwyddiad a derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Irene Lau, Pat, Daphne a Mary Rose. Anfonodd pawb eu dymuniadau gorau at Irene, sydd wedi bod yn ddifrifol wael ond sydd yn ymladd brwydr anodd gyda dewrder eithriadol, gan barhau i fynd i bobman a gwneud popeth.

Roedd y mwyafrif wedi mynychu penwythnos Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr yn y Drindod fis Medi diwethaf, a fu’n llwyddiant diolch i ymdrechion Gwen i ddod o hyd i gyn-fyfyrwyr a’u perswadio i fynychu. Fel yr addawyd, dyma rai sylwadau a fydd gobeithio yn annog hyd yn oed mwy o gyn-fyfyrwyr o bob oed i fynychu’r digwyddiad nesaf. Roedd yn well gan bobl roi eu sylwadau yn ddienw er mwyn bod yn fwy naturiol.

“Roedd yr awyrgylch yn wych a’r bwyd yn ardderchog.”

“Roedd yn hyfryd cwrdd â phobl nad oeddem wedi’u gweld ers ein cyfnod fel myfyrwyr, yn enwedig y rhai a ddaeth o bell, a ddywedodd eu bod yn difaru nad oeddent wedi ymwneud â’r gymdeithas ynghynt”.

“Fe wnes i fwynhau’r arddangosfeydd mawr o ffotograffau – gallwn i fod wedi treulio oriau yn edrych arnyn nhw.”

“Roedd y syniad o roi hanner cant o ganhwyllau ar allor y capel yn fendigedig ac roedd uno yn y Cymun ddydd Sul yn hwb ysbrydol.”

“Roedd yn anhygoel pa mor hawdd ydoedd i adnabod pobl ar ôl cymaint o amser, a chyn lleied oedd eu cymeriadau wedi newid.”

“Mae adeiladu a datblygu helaeth ar waith yn y Coleg, er yr hoffwn fod wedi gweld rhai o’r hen ystafelloedd darlithio.”

Wrth ystyried y blynyddoedd i ddod, y teimlad oedd y dylid caniatáu cymaint o amser ag sy’n bosib ar gyfer cymdeithasu anffurfiol. Mae’r mwyafrif yn hapus i siarad a chael hanes hen ffrindiau. Mewn digwyddiadau o’r fath, mae’n ymddangos fel petai pawb yn mynd yn ôl mewn amser felly mae’n brofiad sy’n adfer ieuenctid.

Myfyrwyr 1957 Teimlai nifer na ddylai myfyrwyr unigol gael eu dathlu’n benodol, yn enwedig mewn digwyddiad anffurfiol. Gan fod pobl yn gweithio mewn meysydd yn ddiarwybod i eraill, mae’n amhosib gwybod beth mae pawb wedi’i gyflawni, tra bod tuedd i’r sawl sydd â phersona cyhoeddus gael cryn sylw.  Teimlem mai’r Coleg fel corff corfforaethol ddylai gydnabod a gwobrwyo holl llwyddiannau’r cyn-fyfyrwyr yn eu gwahanol feysydd. Mi wnes i osgoi crybwyll unigolion yn fy araith wedi cinio’r cyn-fyfyrwyr yn fwriadol fel na fyddai neb yn teimlo iddynt gael eu hesgeuluso.

Mwynhaodd pawb y cinio nos Sadwrn yn enwedig ac wrth i fyfyrwyr diweddarach gyrraedd am y penwythnos llawn, teimlwyd mai priodol fyddai parhau yn y blynyddoedd sydd i ddod i drefnu’r byrddau ar gyfer digwyddiadau nos Sadwrn yn ôl blynyddoedd.
Teimlwyd bod Owain ac Eleri wedi gwneud yn dda i gael y gymdeithas ar ei thraed a bu llawer o sylwadau gwerthfawr am eu hymdrechion ar gyfer gwneud y penwythnos yn llwyddiant.  Canmolodd llawer y prif gogydd hefyd.

Roedd nifer o’n blwyddyn ni eisoes yn cwrdd yn gyson a gobeithiwn y bydd grwpiau eraill yn dechrau dod ynghlwm â’r gymdeithas. Mae’n rhaid bod “celloedd” eraill ar hyd a lled y wlad a dylai eu cyfranogiad nhw beri  i benwythnos y cyn-fyfyrwyr dyfu o flwyddyn i flwyddyn.