Cyn-fyfyrwyr Coleg y Drindod
Mr George Head OBE
Dyma ddarn o hunangofiant Mr George Head OBE o Bontefract. Yn llawn bywyd yn 90 mlwydd oed, credwn mai Mr Head yw ein cyn-fyfyriwr hynaf! Bu Mr Head yn fyfyriwr yn y Drindod o 1935 i 1937
Deuai llawer o’r myfyrwyr yn fy mlwyddyn o Swydd Efrog ac roedd yn rhaid inni deithio tua 250 milltir ar y trên. Golygai hyn adael gartref am 7.30am, gan deithio i Normanton, newid yn Wakefield, gan ddal y trên i Fanceinion. Yno byddem yn ymuno â’r garfan o Swydd Gaerhirfryn. O Fanceinion daliem y Central Wales Express. Y lle cyntaf y byddem yn stopio ynddo fyddai Amwythig lle caem hoe am hanner awr! Yna ymlaen i Craven Arms, Trefyclo, Llandrindod, Llanfair-ym-Muallt, Llanymddyfri ac yn olaf Cyffordd Llandeilo lle newidiem am Gaerfyrddin. Yn ffodus dim ond ychydig iawn o fagiau oedd gennym oherwydd yn y dyddiau hynny codai’r cwmni trenau ddau swllt (10c heddiw) am gasglu a danfon eich bagiau, be bynnag fo’r pellter. O gyrraedd Caerfyrddin am 5pm teimlem yn unig ac ymhell o gartref. Dim rhyfedd i’r Canon Parry ddweud yn ei araith groeso, “Os ydych yn teimlo fel crio, gwnewch hynny, mi wnaiff les i chi”. Yna aem i wledda yn y cantîn ar y swper gorau erioed – tafell dew o ham wedi’i ferwi a betysen a margarîn!
Er gwaethaf yr amodau cysgu Spartaidd, ychydig iawn ohonom gâi trafferth gysgu gan ein bod wedi llwyr ymlâdd. Ar gyfer cysgu yn unig oedd ein llofftydd, er iddynt gael eu disgrifio fel Ystafelloedd Cysgu/Astudio. Roedd gan y gwelyau sbrings – rhai siâp diemwnt yn sownd i ffrâm fetel solet yn union fel y rhai a ddefnyddiem yn ystod ein gwasanaeth rhyfel yn fuan ar ôl dod yn Athrawon Cymwysedig. Galluogodd ein hyfforddiant yn y Drindod i lawer ohonom ddod yn Hyfforddwyr Rhingyll yng Nghorfflu Hyfforddiant Corfforol y Fyddin – mintai gref o ddynion â’r arwyddair Mens sana in corpore sano (meddwl iach mewn corff iach) – a allai fod wedi’i gymhwyso hefyd i sôn am ein hyfforddiant yng Ngholeg y Drindod. Yr unig ddodrefn yr oeddech yn siŵr o’i gael oedd gwely. Doedd dim bwrdd, ond os oeddech yn lwcus efallai y caech gadair a mat. Doedd dim basn ymolchi yn yr ystafell, dim ond ymolchfa ar ganol pob llawr. Pe byddai argyfwng, roedd gennym bot enamel o dan y gwely. Câi’r rhan hon o’r adeilad ei chloi gyda’r nos ac rwy’n dychryn wrth feddwl beth allai wedi digwydd pe byddai argyfwng. Diffoddwyd y goleuadau am 10.30pm ac i wneud yn siŵr na fyddem yn eu rhoi ymlaen eto, diffoddwyd y prif gyflenwad. Cefais fy mhen-blwydd yn 21 ym Mai 1937 ac mi ddathlom drwy gael pop a chacen pen-blwydd yng ngolau’r gannwyll.
Am 7 neu 7.30am byddai’n rhaid inni adael y rhan hon o’r adeilad, croesi Neuadd y Gogledd, a mynd i lawr y grisiau i’r quadrangle i’r toiledau oedd ar yr ochr dde, os cofiaf yn iawn. Roedd darn o weiren bigog rhwng y pyst i’n cadw oddi ar y glaswellt – rhywbeth wedi’i adael ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Nid oedd drysau na seddau ar y toiledau – oherwydd glanweithdra neu economi debyg. Am newid hyfryd oedd cael treulio noson yn yr aduniad diwethaf mewn ystafell myfyriwr oedd ag adnoddau en-suite!
Nid oedd baddon yn y rhan gysgu o’r adeilad ac roeddem oll yn pendroni lle caem ein bath wythnosol, sef y drefn arferol y dyddiau hynny. Ni ddywedwyd wrthym, ond prynhawn Iau oedd y prynhawn chwaraeon a chwaraeai pawb rhyw fath o chwaraeon. Pan heidiodd y cyfan ohonom yn ôl, yn flinedig ac yn frwnt, roedd drws led pen ar agor ac yno y tu mewn roedd deunydd ymolchi a’r baddon. Roeddent yn rhai Fictorianaidd cydnerth, gyda thraed mawr a phob un ohonynt braidd yn simsan gan beri bod dŵr ar y llawr ym mhob man. Ein traed a olchid yn gyntaf ond sut y llwyddai tua wyth deg o ddynion i ymolchi, does gen i ddim syniad!
Wedi gweld y llyfrgell sydd yno heddiw, teimlaf y gellid wedi gosod y Coleg cyfan yn fy nyddiau i mewn yn hwn. Ein llyfrgell ni oedd y rhagystafell cyn y Capel a dim ond ychydig o lyfrau arbenigol oedd ar gael. Roedd yn rhaid i chi fod yn gyflym dros ben i gael gafael ar lyfr prin. Peth da oedd bod y llyfrau gosod yn cynnwys ein cwrs astudio. Ymhelaethwyd ar The Groundwork of Educational Psychology gan Ross gan y Canon Parry, y Prifathro a Darlithydd Seicoleg, felly daeth y mwyafrif ohonom i ben heb y llyfrgell.
Er gwaetha’r gwendidau i gyd, roedd ymdeimlad cryf o gyfeillgarwch ymysg y myfyrwyr, a chan fod llawer ohonom wedi bod yn yr ysgol gyda’n gilydd ers rhai blynyddoedd tyfodd y cysylltiadau rhwng ein hysgol a’r Drindod. Wrth gwrs, derbyniom y sefyllfa oherwydd dyna oedd trefn y byd oedd ohoni ac ar ben hynny hyfforddi fel athrawon oedd un ffordd o ddianc o’r ‘dosbarth gweithiol’ ac roeddem yn falch o’r cyfle. Mae’n ddiddorol sylw mai cyflog athro yn 1881 oedd £120 y flwyddyn gyda llety yn rhad ac am ddim ac yn 1937 roedd yn £180 ond heb lety.
Rhwng yr hostel a’r adeilad gwreiddiol roedd yr ‘Ystafell Ysmygu’, lle roedd gan bob un ohonom gwpwrdd bach â chlo i ddal ein llyfrau a’n hoffer gwaith coed. Prynem ni i gyd y cloeon o Woolworth felly doedden nhw’n dda i ddim o ystyried. Wrth gwrs, hefyd yma gallem ysmygu. Yna roedd Neuadd y Gogledd lle’r oedd swyddfa Miss Francis, Ysgrifenyddes y Coleg. Yma, tua unwaith y mis fel rheol, byddem yn cyfarfod y Prifathro.
Yr unig ddarlithfa sydd yn dal i fodoli, bron â bod, yw’r un tridarn ar y dde; mae’r ymolchfa wedi mynd a hefyd yr ystafell a ddefnyddid gan yr Is-brifathro Mr Humphreys – darlithydd Mathemateg a Dulliau Dysgu. Roedd dwy ystafell darlithio fyny’r grisiau lle treuliem dair awr a hanner yn astudio ar ein pennau ein hunain bob nos oni bai am nos Sul. Ym mhen draw'r ystafell gyntaf roedd ystafell fach, sef y Clafdy a’r ystafell lle cawsom ein Harchwiliad Meddygol olaf.
Rhaid i mi beidio ag anghofio bloc newydd y Gampfa a Chelf a godwyd yn 1932 a’r Ystafell Radio a gwblhawyd tua 1936. Roedd y Gampfa yn lleoliad gwych a chyflawnwyd llawer o orchestion penigamp yno. Bu Aduniad, yn 1937 o bosibl, ac roedd y cyn-fyfyrwyr am gysgu yn eu hen ystafelloedd gwely, felly cysgom ninnau ar lawr y gampfa.
Roedd wastad groeso i Mr Wilford, Tiwtor Cerddoriaeth, Pennaeth yr Ysgol Model Ymarfer, Organydd ac Arweinydd y Côr yn Eglwys Sant Pedr yn y Coleg. Rhoddai ei ymweliad ryddhad inni o awr olaf yr amser astudio ar ein pennau ein hunain gan roi’r cyfle inni ganu o waelod calon. Dysgom lawer o ganeuon o “Up the Jolly Roger, Boys”, “Farewell and Adieu to you Spanish Ladies” i’r gân weddol drist a difrifol gan Syr Arthur Sullivan, “The Long Day Closes”. Mae’n drueni mawr nad oedd recordio’n bosibl bryd hynny – dychmygwch bedwar ugain o leisiau dynion ifanc yn canu cytgord mewn pedair rhan yn hapus. O’r sesiynau hyn y llwyddom i gynnal cyngherddau pob pythefnos. Yn anffodus, dim ond dynion oedd yno – ni chaniateid mercheta. Er hynny roedd dipyn o artistiaid – nifer fawr o bianyddion, nifer o ffidlwyr ac ambell un yn chwarae offeryn chwyth. Roedd digonedd o ganeuon i’w canu; sgetshis i’w perfformio – yn adlewyrchu ein bywyd mynachaidd yn bennaf. Does gen i ddim cof fod unrhyw aelod o’r staff yn bresennol – llawn cystal debyg!
Arferem fynychu gwasanaethau’r hwyr yn Eglwys Sant Pedr ac oherwydd hyn dysgom ganu nifer o emynau yn y Gymraeg – dipyn o dasg i bobl Swydd Efrog, y ‘Yorkshire Tykes’! Un o’r emynau oedd ‘Calon Lân’ a chofiaf yn iawn un Gymraes yr oeddwn yn lletya â hi yn ystod y rhyfel wedi’i synnu’n lân pan chwaraeais y gân ar y piano a chanu’r geiriau yn ei mamiaith. Fel arfer aem fyny i’r oriel – wn i ddim pam – ac yn aml byddem yn colli arnom ein hunain ac yn gorffen cyn y gynulleidfa – peth ofnadwy inni ei wneud. Ond y gwir amdani, y cynharaf y caem fynd allan o’r Eglwys po fwyaf o amser oedd gennym yn y dref.
Un prynhawn Sul cynnes a braf, pan oeddem i fod i fynd i Sant Pedr, penderfynom ni – y criw o ogledd Lloegr – beidio â mynd i’r eglwys a mynd am dro. Ni chawsem gyfle yn aml iawn, felly ffwrdd â ni am Lansteffan. Am bishyn chwech cawsom frechdan gaws a hanner cwrw Felinfoel – y prif bechod ar ôl mercheta. Yn anffodus darganfuwyd ein pechodau. Aeth mam un ohonom yn sâl ac roedd y tiwtoriaid wedi aros wrth y drws i ddweud y newyddion wrtho. Bu inni oll gyfaddef ein heuogrwydd a chawsom ein gwahardd rhag mynd allan am y pedwar Sul dilynol. Eto, dim ond un Sul yr arhosom i mewn yn y diwedd wedi’r cwbl gan nad oedd y Myfyriwr Hŷn am golli’i ryddid ar y Sul chwaith.
Gwelwch yn hyn o beth fod nos Sul yn noson bwysig. Dyma’r unig noson y caem fynd allan – ar ddiwedd gwasanaeth yr hwyr. Doedd hyn byth cyn 7.30pm. Roedd amseru’r Prifathro yn berffaith a gelwid yr enwau am 9.30pm. Byddai’r myfyriwr oedd ar ddyletswydd i ganu’r gloch a galw’r enwau yn mynd â’r gloch i sgwâr y dref am 9pm, dechrau ei chanu, ac yna fel Pied Piper casglai tua wyth deg o fyfyrwyr ar y ffordd yn ôl i’r Coleg. Am fywyd llawn hwyl oedd gennym. Yr hoff emyn, ar ôl cyrraedd hanner ffordd mewn man a elwid yn ‘Nearer Home’, y dechreuem ganu yma oedd ‘Forever with the Lord’ gan barhau â’r llinell ‘And nightly pitch my moving tent a day’s march nearer home’.
Roedd nifer o gymeriadau yn fy mlwyddyn i. Clywodd Job o’r un ysgol â mi eiriau agoriadol Gweddi’r Arglwydd yn y Gymraeg “Ein Tad” a dywedodd, “I say, so am I”. Roedd teulu myfyriwr arall wedi ennill y Pŵls ac wedi’i yrru i’r Drindod oherwydd hynny. Roedd dyn o Ganada o’r enw Leahy wedi ennill y cymhwyster yn ei wlad enedigol ond yn gorfod cael tystysgrif Prydeinig i ddysgu yn y wlad hon. Gallai myfyriwr arall o’r enw Lewis chwarae’r ffidil fel y feiolinydd jazz Stefan Grapelli – heb hyfforddiant, heb gerddoriaeth, dim ond dawn diamheuol. Roedd un person o County Durham yn gwisgo braidd yn lliwgar a llachar ac roedd pawb yn ei alw yn Arglwydd John.
Cenid yr anthem coleg gennym i dôn “There is a Tavern in the Town”.
There is a tavern in the town, in the town
And there my true love settled down, settled down
She read her books so merrily
And never, never thought of me, thought of me.
We came from near and far then, unto Trinity Carmarthen
And we saddened as the days drew near to part, to part
We do, O Trinity, we do, we do, we do
Regard thee with affection true, affection true
I’ll hang my hat on the Old Oak Tree,
And may the world go well with thee, well with thee.

