Amdanom Ni

Wedi’i lleoli ar Gampws Llambed, Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, ac yn agor swyddfa cyn hir ar gampws Caerfyrddin, mae Athrofa Confucius gyntaf Cymru wedi cael effaith wirioneddol ar y ddarpariaeth o ran iaith a diwylliant Tsieineaidd yn ysgolion Cymru ers ei sefydlu ychydig dros dair blynedd yn ôl.

Plant ysgol Castell Newydd Emlyn 

Mae mwy na 17 o ysgolion ar draws Cymru bellach â chysylltiadau gweithredol ag ysgolion yn Chongqing; mae Mandarin wedi bod yn rhan o weithgareddau dosbarth cyson i ddeuddeg o ysgolion cynradd ac uwchradd lleol; ac am ddwy flynedd yn olynol mae myfyrwyr wedi cael cyfle gwych i aros am bythefnos yn y Gwersyll Haf iaith a diwylliant yn Beijing yn rhad ac am ddim.

Wedi’i chyllido gan Gyngor Rhyngwladol yr Iaith Tsieineeg (sy’n adnabyddus dan yr enw Hanban), swyddogaeth Athrofa Confucius yw cyfoethogi bywydau pobl drwy ddarparu cyfleoedd i’r hen a’r ifanc brofi diwylliant Tsieineaidd a dysgu Mandarin.

Bydd llawer o’n gwaith yn cael ei wneud mewn ysgolion, lle mae’n hathrawon Tsieineeg yn darparu ystod eang o weithgareddau o Ddiwrnodau Tsieina, pryd gall disgyblion geisio gwneud twmplenni, cymryd rhan mewn seremoni de draddodiadol neu roi cynnig ar galigraffeg, i wersi Tsieineeg mwy ffurfiol.

Bellach rydym yn cyflwyno modylau Tsieineeg yn gyson i fyfyrwyr 6ed dosbarth sy’n gwneud Bagloriaeth Cymru, ac rydym yn darparu cyrsiau dwys byr dros gyfnodau preswyl ar y campws. Mae gweithgareddau Athrofa Confucius yn cyfoethogi’n rhaglen i israddedigion drwy ystod eang o ddigwyddiadau diwylliannol, er enghraifft y Gwersyll Haf yn Beijing, cystadlaethau Tsieineeg ac ysgoloriaethau i fyfyrwyr astudio yn Tsieina. Ar hyn o bryd, Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yw’r unig brifysgol yng Nghymru sy’n cynnig rhaglenni gradd cyflawn (BA, MA, PhD) mewn Astudiaethau Tsieineaidd. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am beth rydym yn ei gynnig i ysgolion...