Cyrsiau
Mae Sefydliad Confucius yn cynnig dosbarthiadau gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar fore Sadwrn mewn iaith Tsieineaidd (Mandarin) ynghyd â rhaglen amrywiol o ddosbarthiadau diwylliannol, seminarau, darlithiau a digwyddiadau arbennig.
Os na chewch gwrs sy'n addas ar eich cyfer, rhowch wybod i ni! Bydd dosbarthiadau yn ystod y diwrnod a rhai ychwanegol yn cael eu rhaglennu yn unol â’r galw.
Iaith a Diwylliant Tsieineaidd mewn Ysgolion
Mae Sefydliad Confucius yn darparu gwersi iaith Tsieinëeg mewn ysgolion neu Glybiau Tsieineaidd mewn ysgolion lleol yn unol â galwadau ysgolion. Yn ogystal, rydym yn cynnal gweithdai ymarferol mewn Diwylliant Tsieineaidd lle gall disgyblion brofi caligraffeg, crefft torri papur, a dawnsio Tsieineaidd, neu sut i ddefnyddio gweill bwyta drostynt eu hunain.
Rhaglen Breswyl mewn Iaith a Diwylliant Tsieineaidd
Nod y rhaglen breswyl yw cyflwyno myfyrwyr ysgolion uwchradd i iaith a diwylliant Tsieineaidd fel rhan o Fagloriaeth Cymru neu gymwysterau eraill. Yn ystod y cyfnod preswyl rydym yn cynnal darlithiau a sesiynau ar ddull gweithdy ar amrywiaeth o bynciau, er enghraifft:
- Iaith a chaligraffeg
- Ieuenctid a diwylliant ieuenctid Tsieina
- Bwyd yn Tsieina
- Crefyddau Tsieina
- Y gymdeithas gyfoes
- Hanes Tsieina
Caiff myfyrwyr hefyd gyfle i gymryd rhan mewn gweithgaredd cymdeithasol Tsieineaidd (cinio ar ddull Tsieineaidd, caraoce, ac ati). Cânt brofiad uniongyrchol o fywyd cymdeithasol Tsieina a’u hannog i ystyried yr hyn y mae byw mewn diwylliant estron yn ei olygu.
Gweithdai ar gyfer Hyfforddi Athrawon Tsieinëeg
Tsieinëeg yw’r iaith yw'r iaith gyntaf yn y byd o ran nifer ei siaradwyr. Mae’r galw am athrawon Tsieinëeg yn sicr o gynyddu yn y dyfodol. Mae Sefydliad Confucius Llambed yn cynnig addysg barhaus i athrawon Tsieinëeg a siaradwyr brodorol sy'n anelu at yrfa ym maes dysgu Tsieinëeg fel iaith dramor. Diddordeb? Holwch ni am ragor o fanylion!
Cysylltu â ni
Sefydliad Confucius
Prifysgol Cymru
y Drindod Dewi Sant
Campws Llanbedr Pont Steffan
27 Stryd y Coleg
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion SA48 7ED
Ffôn: +44 (0) 1570 424860
E-bost: confuciusinstitute
@ydrindoddewisant.ac.uk

