Iaith a Diwylliant Tsieineaidd mewn Ysgolion
Newyddion Diweddaraf
Sesiwn Flasu Ddwbl mewn Tsieineeg ar gael yn rhad ac am ddim ym mis Medi yn unig. Anfonwch e-bost atom am ragor o fanylion
Mae gan lawer o ddisgyblion yn ysgolion Cymru fantais naturiol pan ddaw i ddysgu ieithoedd. Gan eu bod yn ddwyieithog maen nhw’n ei chael hi gymaint yn haws i ddysgu ieithoedd. Mae ysgolion cynradd ac uwchradd sydd wedi cyflwyno’r iaith a diwylliant Tsieineaidd wedi bod yn frwdfrydig am sut mae’n hathrawon wedi mynd â’u disgyblion i fyd a diwylliant arall. Meddai Ysgol Dyffryn Taf am Athrofa Confucius yn ddiweddar:
‘Perthynas ragorol yw hon a ddiffinnir gan diwtor cymwys a charismataidd.'
Mae Athrofa Confucius wedi bod yn gweithio i ddatblygu rhaglenni sy’n addas i anghenion (a chyllideb) pob ysgol. Gall ysgolion ddewis o amrywiaeth o becynnau sy’n gweddu orau i’w hanghenion:
Addysgu wythnosol cyson gan un o’n hathrawon Tsieineeg cymwysedig a phroffesiynol, gyda gweithgareddau sy’n cael eu mapio i bob Cyfnod Allweddol yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, ac sy’n cymryd oedran a galluoedd y disgyblion i ystyriaeth.
Diwrnod Tsieina neu Wythnos Tsieina – bydd tîm o athrawon yn dod i’r ysgol ac yn cyflwyno rhaglen gyffrous o weithgareddau o wneud twmplenni, torri papur a chaligraffeg i chwarae rôl ieithyddol a gwylio ffilmiau Tsieineaidd.
Modwl Bagloriaeth Cymru: Cymru, Tsieina a’r Byd. I fyfyrwyr 6ed dosbarth a hoffai gyflwyniad i Fandarin sylfaenol, mae’r modwl hwn yn rhoi’r paratoad angenrheidiol iddynt ac yn darparu cwrs byr ysgogol fel rhan o’u gweithgareddau ar gyfer Bagloriaeth Cymru. Gellir cyflwyno’r cwrs ar hyd y tymor neu fel cwrs dwys 5 diwrnod, gyda’r posibilrwydd o gyfnod preswyl dau ddiwrnod ar Gampws Llambed.
Yn ystod y cyfnod preswyl rydym yn cynnig darlithiau a sesiynau ar ddull gweithdy ar amrywiaeth o bynciau, er enghraifft:
- Iaith a chaligraffeg
- Ieuenctid a diwylliant ieuenctid Tsieina
- Bwyd yn Tsieina
- Crefyddau Tsieina
- Y gymdeithas gyfoes
- Hanes Tsieina
Am fanylion costau a chyllid cyfyngedig i ysgolion cliciwch yma

