Pwyslais ar y Celfyddydau Perfformio a Gweledol
Nid yn unig mai hon oedd yr Athrofa Confucius gyntaf i’w sefydlu yng Nghymru, hefyd mae’n un o’r rhai cyntaf ymhlith y 12 chwaer-athrofa ar draws y DU i ddatblygu pwyslais arbennig ym maes y celfyddydau perfformio a gweledol. Adlewyrchir hyn bellach yn y ffaith ein bod yn dod o fewn Cyfadran y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol yn y Brifysgol newydd.
Dechreuom arbenigo yn y celfyddydau perfformio a gweledol y llynedd wrth inni nodi 60 mlynedd ers sefydlu Gweriniaeth Pobl Tsieina drwy lansio’r Ŵyl Ffilmiau Clasurol Tsieina gyntaf, gyda sinemâu ar draws Cymru’n dangos rhai o ffilmiau mwyaf blaenllaw Tsieina. Ym mis Tachwedd daeth Cerddorfa Offerynnau Traddodiadol Nanjing atom ar daith o Tsieina. Ym mis Chwefror, bu grŵp dawns a chrefftau ymladd Heilongjiang yn darparu adloniant yn Neuadd y Celfyddydau ar gyfer y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, a’r neuadd dan ei sang. Ac eleni mae rhagolygon am fwy o ddigwyddiadau diwylliannol cyffrous.
Cliciwch yma i weld beth sydd ar ddod...

