Datblygu Busnes i BBaChau a Micro-Fentrau

Creativity and Innovation in Micro-Enterprises Creadigrwydd ac Arloesedd mewn Micro Fentrau (CAMF)   

O dan y prosiect hwn ceir manteisio'n ddi-dâl ar ymgynghorwyr busnes ac ymaelodi â rhwydweithiau arloesi i sicrhau bod technegau creadigrwydd yn treiddio'n ddwfn  mewn busnesau bach, a hynny er mwyn symbylu arloesed. Mae'n cynnig hyfforddiant a gwasanaeth ymgynghori penodol ynghylch datblygu cynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd. Cynhelir cyfarfodydd misol o'r rhwydweithiau poblogaidd yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, yn ogystal â phedair haen o weithdai undydd dwys ac ymgynghoriadau busnes arloesol.

Software Alliance Wales Cynghrair Meddalwedd Cymru (SAW)

Mae'r Cynghrair yn darparu cefnogaeth ar gyfer datblygu sgiliau proffesiynol TG ac ym maes rheoli sector TG ac arweinyddiaeth. Trwy gyfrwng rhaglen amlochrog mae modd i'r tîm helpu rheolwyr ac arweinwyr ym mhob sector i sicrhau eu bod mewn sefyllfa i elwa ar fanteision technoleg wrth yrru cystadleurwydd a chynhyrchiant.  Bydd yn galluogi sefydliadau i wella sgiliau defnyddwyr TG yn unol ag anghenion busnes.

Partneriaeth Arloesi'r Ddraig

Cyngor ar sut i fanteisio ar y gefnogaeth a gwasanaethau sydd ar gael gan Brifysgolion ac Athrofeydd Addysg Bellach yn rhanbarth de-orllewin Cymru

Prosiect Mentora Rhwydwaith Gwledig Cymru

Nod y prosiect yw darparu gwasanaeth mentora a hyfforddi i 4 Gr?p Gweithredu Lleol ledled Cymru i ddatblygu a chyflwyno prosiectau trawsgenedlaethol.

Rhwydwaith Cefnogi Diwydiannau Creadigol (CISNET) 

Mae'r rhwydwaith hwn yn darparu cymorth a chyfleoedd busnes ar gyfer gweithio ar y cyd trwy rwydwaith o BBaChau mewn 5 o wledydd - Iwerddon, Cymru, Sbaen, Portiwgal , Ffrainc.  Mae'r pwyslais ar gyfleoedd ym maes treftadaeth a throsglwyddo gwybodaeth ymhlith ymchwilwyr YDDS, asiantaethau treftadaeth a sefydliadau sy'n comisiynu gwasanaethau dehongli treftadaeth.

Rhwydwaith Cefnogi Diwydiannau Creadigol (CISNET) logo