Treftadaeth a Thwristiaeth
Prosiect Ystrad Fflur
Mae'r prosiect yn datblygu gweithgareddau ym maes twristiaeth dreftadaeth er mwyn cefnogi busnesau lleol, i arallgyfeirio'r economi leol a hyrwyddo cydlyniad cymunedol a chynaliadwyedd amgylcheddol gan ganolbwyntio ar Ystrad Fflur.
Cymunedau 3D ShipShape
Yn y prosiect "Shipshape" ymchwilir i'r potensial o ddulliau dehongli treftadaeth uwch sy'n defnyddio technolegau 'aml-gyffwrdd' a modelu digidol 3D. Er bod y pwyslais ar ddatgloddio ac arddangos Llong Casnewydd byddai diddordeb gennym mewn gweithio ar ddelweddu uwch gyda phob sector arall yn y diwydiannau treftadaeth a chreadigol.
Eiddo Deallusol a Chysyniad Gwybodus: Partneriaethau a Rhwydweithiau
Mae'r prosiect yn ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â hawliau eiddo deallusol mewn perthynas ag ymchwil traws-sefydliadol yn y sector Addysg Uwch a rhwng y brifysgol a sefydliadau treftadaeth.
HERCULES
Mae'r prosiect hwn yn gyfle i weithio gyda chymunedau yn Sir Gaerfyrddin a Waterford i werthfawrogi ymdeimlad o le rhanbarth Cymru - Iwerddon trwy ddatblygu cymuned ar-lein gyda chipolwg byw, wedi'i rannu, ar y rhanbarth.
Her.cul.es
Cryfhau atyniad addysg uwch Ewropeaidd ym maes Treftadaeth a Thwristiaeth Ddiwylliannol
Mae'r prosiect hwn yn hyrwyddo'r cyflenwad presennol o raglenni addysg uwch Ewropeaidd ar reoli twristiaeth ym maes treftadaeth ddiwylliannol.

