Meithrin Sgiliau
Mae nifer o’n rhaglenni’n cynnig cyfleoedd i feithrin sgiliau, yn enwedig ar gyfer busnesau bach a sefydliadau.
Caiff y rhaglenni meithrin sgiliau naill ai cymhorthdal mawr neu eu hariannu’n llwyr, a chynigant ystod o gyfleoedd o weithdai hanner diwrnod sy’n seiliedig ar bynciau i gyrsiau tystysgrif broffesiynol a hyd yn oed MBA.
Dyma rai o’r prosiectau sy’n cynnig cyfleoedd i feithrin sgiliau:
Rhwydwaith Gweithio Perfformiad Uchel
Dull ar gyfer Cymru gyfan yw hwn i nodi a datblygu arweinyddiaeth a rheoli anghenion sgiliau lefel uchel cwmnïau o faint micro, bach a chanolig.

LATERAL
Mae'r prosiect hwn yn darparu modylau 15 credyd sydd wedi eu hariannu'n llawn ac sy'n caniatáu i'r dysgwr hawlio hyd at ddwy ran o dair o gymhwyster ar gyfer dysgu blaenorol trwy brofiadau.
Mentora'r Gweithlu
Mae'r prosiect hwn yn cynnig modwl 20 credyd a ariennir yn llawn trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Trwy'r modwl gall y dysgwr weithredu proses fentora ar sail llawer o ymchwil sy'n addas i anghenion y cwmni.
Mynediad i Gwrs Meistr a Ddysgir
Mae'r prosiect yn cynnig cymorth ar gyfer sgiliau ar lefel ôl-raddedig i lenwi bylchau a nodir gan geisio darparu'r sgiliau hyn, a hynny i gefnogi'r economi wybodaeth a chynyddu cynhyrchiant.
Geiriau Bach
Rhaglen Hyfforddi Blynyddoedd Cynnar yw hon a sefydlwyd o dan nawdd Llywodraeth Cymru a'r ddogfen bolisi Iaith Pawb. Mae'n darparu hyfforddi i 150 o ymgeiswyr Lefel 4 mewn Ymarfer Cymraeg a Dwyieithrwydd yn Addysg Blynyddoedd Cynnar.
Prosiect Gloywi Iaith
Mewn partneriaeth â Phrifysgolion eraill Cymru mae'r prosiect yn anelu at wella ansawdd Cymraeg ysgrifenedig a llafar ymhlith plant 7-14 oed.
Cynllun Sabothol
Rhaglenni Cymraeg i Athrawon. Mae'r cynllun hwn yn canolbwyntio ar ddarparu rhaglen sabothol i athrawon Cymraeg sydd am loywi eu sgiliau Cymraeg a (ii) rhaglen Iaith Gymraeg ddwys i athrawon sydd eisoes yn medru'r iaith i raddau.

