CISNET

Rhwydwaith Cefnogi Diwydiannau Creadigol (CISNET) logo

Rhwydwaith Cefnogi Diwydiannau Creadigol 

Mae CISNET yn cefnogi ac yn cyfoethogi gweithgareddau busnes BBaChau (busnesau bach a chanolig) yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol yng Nghymru ac yn Ardal yr Iwerydd Ewropeaidd. Mae partneriaid o Gymru, Iwerddon, Ffrainc, Portiwgal a Sbaen yn gweithio gyda’i gilydd i gael busnesau, sefydliadau ac unigolion yn y diwydiannau hyn i rwydweithio ac arloesi.  Mae rhwydwaith Ewropeaidd creadigol a diwylliannol CISNET yn hybu busnes, cydweithio a throsglwyddo gwybodaeth ar draws gwledydd. 

Beth mae CISNET yn ei gynnig?

  • Trefnu cysylltiadau - paru cwmnïau â chwmnïau eraill, darparwyr technoleg a chanolfannau ymchwil i hwyluso datblygu syniadau, cynnyrch a gwasanaethau newydd ar y cyd.
  • Marchnata ar-lein – mynediad i lwyfan marchnata ar-lein Ewropeaidd CISNET, ‘Creative City’.
  • Datblygu busnes – darparu cymorth rheoli a hyfforddiant sgiliau i fynd i’r afael â bylchau a gwendidau a nodwyd.
  • Nawdd - grantiau bach i fentrau sydd eisiau mynychu ffeiriau neu arddangosfeydd masnach.
  • Mynediad i gyllid – adnabod ffynonellau cyllid cyhoeddus a phreifat, yn cynnwys cyllid Ymchwil a Datblygu
  • Llygad ar dechnoleg – helpu cwmnïau i gysylltu â thechnolegau newydd.

Pwy all CISNET helpu? 

BBaChau yn sector y diwydiannau creadigol, a ddiffinnir fel hyn: hysbysebu, pensaernïaeth a chynllunio cartref, llyfrau a’r wasg, teledu a radio, crefftau a chreiriau, dylunio a ffasiwn, ffilm a fideo, rheolaeth ddiwylliannol, cerddoriaeth, y celfyddydau perfformio, meddalwedd a gemau fideo, y celfyddydau gweledol.
Cynigir cefnogaeth i fusnesau bach neu ganolig yn y diwydiannau hyn sydd wedi’u lleoli yng Ngorllewin Cymru neu’r Cymoedd.

Partneriaid CISNET

Ariennir y prosiect yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy e Atlantic Area IVB Programme.  

Mae Ysgol Busnes Prifysgol Y Drindod Dewi Sant yn gweithio mewn partneriaeth â’r sefydliadau hyn i ddarparu CISNET:

Cysylltwch â CISNET:European Regional Development Fund, Welsh Government

Ms Elisa Harrocks
CISNET
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion SA48 7ED

Gwefan: cisnetwork.eu

Rhif ffôn: 01570 424 971
Ebost: e.harrocks@tsd.ac.uk