coracle logo

CORACLE

Mae Coracle yn rhaglen o weithgareddau trawsffiniol i ddatblygu sgiliau lefel uwch er mwyn bod yn gystadleuol ymhlith ymarferwyr creadigol yn Ne-orllewin Cymru a De-ddwyrain Iwerddon.

Cysylltu â CORACLE
E-bost: dominic@coracle.eu.com
Rhif ffôn: 01267 676 785

Rhagor o wybodaeth:
Gwefan: coracle.eu.com
Twitter: @cwrwgl?
Dewch i'n gweld ar Facebook

Beth mae CORACLE yn ei gynnig?

Mae'n darparu ac yn hwyluso addysg uwch a hyfforddiant trwy gynnig MBA mewn Rheolaeth Celfyddydau Broffesiynol, gweithdai, cyrsiau galwedigaethol a chyfleoedd i gyfnewid gwybodaeth. Mae'n darparu gofod portffolio aml-gyfrwng ar-lein o fewn adnodd a chanolbwynt rhwydweithio rhithwir ar gyfer cynnal busnes creadigrwydd.

Pwy all CORACLE helpu?

Diwydiannau creadigol ac ymarferwyr creadigol e.e. lleoliadau perfformio a chelfyddydol, cwmnïau theatr, artistiaid gweledol, awduron, graddedigion a myfyrwyr y celfyddydau creadigol. Unrhyw sefydliad neu unigolyn sy'n ymwneud ag arfer creadigol proffesiynol neu sydd â dyheadau i dalu'i ffordd yn fasnachol fel ymarferydd creadigol. Rhaid i'r cyfranogwyr fod wedi'u lleoli yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro neu Geredigion.

Partneriaid y prosiect

Ariennir y prosiect yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Raglen Iwerddon - Cymru (INTERREG 4A) ac fe'i goruchwylir yng Nghymru gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru

Mae'n cael ei redeg mewn partneriaeth â'r Athrofa Technoleg yn Carlow, Canolfan y Celfyddydau Wexford, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Swydd Wexford.

Yn Y Drindod Dewi Sant, mae CORACLE yn cael ei redeg gan yr Ysgol Theatr a Pherfformio.ERDF European Regional Development Fund Welsh Government Logo 2011

Dominic Williams
Prosiect CORACLE
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Caerfyrddin SA31 3EP

Rhif ffôn: 01267 676785
E-bost: dominic@coracle.eu.com