Partneriaeth Arloesi’r Ddraig
Mae Partneriaeth Arloesi’r Ddraig yn fenter gydweithredol rhwng Prifysgol Abertawe, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Ei nod yw cynyddu i’r eithaf gyfleoedd ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth ac arbenigedd rhwng y prifysgolion a hwmnïau a sefydliadau allanol.
Beth mae Partneriaeth Arloesi'r Ddraig yn ei gynnig?
Nod Partneriaeth Arloesi'r Ddraig yw'ch cynghori a oes arbenigwyr o fewn i'r tair prifysgol sydd â'r arbenigedd i fodloni'ch anghenion. Ar ôl sefydlu hyn, gall y Bartneriaeth helpu datblygu pecyn cymorth cynhwysfawr, wedi'i deilwra i'ch anghenion.
Hefyd rydym yn cynnal digwyddiadau rhad ac am ddim ar hyd y flwyddyn ar themâu a materion o ddiddordeb i fusnesau Cymru.
Pwy gall Partneriaeth Arloesi’r Ddraig ei helpu?
Mae Partneriaeth Arloesi'r Ddraig yn gallu cefnogi busnesau, sefydliadau ac unigolion ar draws de-orllewin Cymru.
Partneriaid
Cyllidir Partneriaeth Arloesi’r Ddraig yn rhannol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ac mae’n derbyn cyllid uniongyrchol sylweddol i gefnogi, hyrwyddo a datblygu perthnasau â grwpiau allanol.
Mae’n gyfochrog â phrosiect ehangach Partneriaeth Addysg Uwch De-orllewin Cymru (SWWHEP) rhwng Prifysgol Abertawe, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae’r ddau brosiect yn unedig yn eu nod o hyrwyddo gweithio cydweithredol rhwng y tri phartner.
Yn Y Drindod Dewi Sant, Y Swyddfa Ymchwil a Datblygu sy'n cynnal Partneriaeth Arloesi'r Ddraig.
Bryan Harries / Duncan Gardner
Partneriaeth Arloesi’r Ddraig
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Caerfyrddin
SA31 3EP
Bryan Harries, Swyddog Cyllido
Ffôn: 01267 676 729
E-bost: b.harries@ydds.ac.uk
Duncan Gardner, Swyddog Prosiect
Ffôn: 01267 676 861
E-bost: d.gardner@ydds.ac.uk
Mwy o wybodaeth: Ewch i wefan Partneriaeth Arloesi’r Ddraig

