Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth
Nod Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth, yn y bôn, yw helpu i ddatblygu eich busnes trwy ganolbwyntio ar faes yr ydych wedi nodi ei fod yn flaenoriaeth uchel.
Trwy gymorth y Swyddfa Ymchwil a Datblygu, dewch o hyd i academydd neu ymchwilydd sydd â’r arbenigedd cywir ar gyfer eich busnes chi. Ar y cyd â’ch partner, byddwch yn diffinio ac yn cytuno ar brosiect a fydd yn eich galluogi i elwa ar eu harbenigedd hwy a’i defnyddio yn eich busnes gan weithio mewn partneriaeth gwybodaeth.
Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth ar gael i sefydliadau o bob maint a math. Gall mentrau yn y sector preifat a chyhoeddus fanteisio ar y gwasanaeth hwn.
Cysylltwch â’r Swyddfa Ymchwil a Datblygu i gael rhagor o wybodaeth.
Neu darllenwch ragor am y rhaglen Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth ar gyfer busnes.

