Ysgoloriaethau Gradd Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Yn ddiweddar lansiwyd Cynllun Ysgoloriaethau Gradd Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd yn cynnig 20 ysgoloriaeth genedlaethol gwerth £1,500 yr un. Mae’r ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio cyrsiau gradd Meistr penodol sy’n cynnwys o leiaf 60 credyd o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Rhan 1. Ynghyd ag astudio cyfran o’r cwrs ei hun drwy gyfrwng y Gymraeg, disgwylir i’r deiliaid lunio eu traethodau estynedig (neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny) yn Gymraeg hefyd.
Isod gwelir rhestr o gyrsiau’r Drindod Dewi Sant sydd yn rhan o’r Cynllun Ysgoloriaethau Gradd Meistr. Os ydych yn y broses o ymgeisio am le ar un o’r cyrsiau yma, neu eisoes wedi ymgeisio am le, mae croeso ichi gwblhau ffurflen gais ar gyfer ysgoloriaeth drwy ddilyn y ddolen i wefan www.mantais.ac.uk . Bydd angen gofyn i un o’ch canolwyr gwblhau ffurflen geirda yn ogystal.
Ysgoloriaethau Gradd Meistr: Cyrsiau Cymwys Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
Dyddiad Cau: 15 Gorffennaf 2011 (12:00pm)
|
MA |
Addysg Blynyddoedd Cynnar |
||
|
MA |
Astudiaethau Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd |
||
|
MA |
Astudiaethau Celtaidd |
||
|
MA |
Hanes Cymru: De-Orllewin Cymru ers 1800 |
||
|
MA |
Cyfryngau a Chreadigrwydd Digidol (ar y cyd â Phrifysgol Abertawe) |
Am ragor o wybodaeth, cysyllter â:
Gruff Ifan
Cydlynydd Addysg Cyfrwng Cymraeg
01267 676 618
g.ifan@ydrindoddewisant.ac.uk

