Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ysgoloriaethau ar gyfer astudio cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg

Yn ystod 2010/11, lansiwyd Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig newydd fel rhan o ddatblygiadau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd yn cynnig hyd at £3,000 i fyfyrwyr sydd yn astudio eu cyrsiau gradd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn un o brif ddarparwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, ac yn cynnig rhychwant o gyrsiau cyfrwng Cymraeg sydd yn rhan o Gynllun Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae dau fath o Ysgoloriaethau, sef;

Prif Ysgoloriaethau

  • £1,000 y flwyddyn am astudio o leiaf 80 credyd (67% o’r cwrs) y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg – cyfanswm o £3000 dros dair blynedd am gyfanswm o 240 credyd.

Ysgoloriaethau Cymhelliant

  • £500 y flwyddyn am astudio o leiaf 40 credyd (33% o’r cwrs) y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg – cyfanswm o £1500 dros dair mlynedd am astudio 120 o gredydau.

Isod gwelir rhestr o gyrsiau’r Drindod Dewi Sant sydd yn rhan o’r Cynllun Ysgoloriaethau.  Os ydych yn y broses o ymgeisio am le ar un o’r cyrsiau yma, yna mae croeso ichi gwblhau ffurflen gais ar gyfer ysgoloriaeth drwy ddilyn y ddolen i wefan www.mantais.ac.uk.

Prif Ysgoloriaethau

Dyddiad Cau: ** Noder fod dyddiad cau ar gyfer ymgeisio ar gyfer Prif Ysgoloriaethau 2012/13 bellach wedi cau (15 Ionawr 2012).  Os ydych yn ddarpar fyfyriwr sydd yn ymgeisio am le ar gyfer Medi 2013, bydd y broses ymgeisio am y Prif Ysgoloriaethau yn ail agor ym mis Medi 2012.

X311

Addysg Blynyddoedd Cynnar

BA

Ffurflen Gais

X123

Addysg Gynradd gyda SAC

BA

Ffurflen Gais

L591

Gwaith Ieuenctid a Chymuned

BA

Ffurflen Gais

X320

Astudiaethau Addysg Gynradd

BA

Ffurflen Gais

L491

Cynhwysiant Cymdeithasol

BA

Ffurflen Gais

W390

Cerddoriaeth

BA

Ffurflen Gais

W470

Perfformio

BA

Ffurflen Gais

P306

Y Cyfryngau Creadigol

BA

Ffurflen Gais

WW12

Celf a Dylunio

BA

Ffurflen Gais

VLPN

Crefydd a Chymdeithas

BA

Ffurflen Gais


Ysgoloriaethau Cymhelliant

Dyddiad Cau: ** Noder fod dyddiad cau ar gyfer ymgeisio ar gyfer Ysgoloriaethau Cymhelliant 2012/13 bellach wedi cau (4 Mai 2012).  Os ydych yn ddarpar fyfyriwr sydd yn ymgeisio am le ar gyfer Medi 2013, bydd y broses ymgeisio yn ail agor ym mis Medi 2012.

XC96

Addysg Gorfforol

BA

Ffurflen Gais

X390

Addysg Awyr Agored

BA

Ffurflen Gais

N200

Rheolaeth Busnes

BA

Ffurflen Gais

Noder yn ogystal bod yr Ysgoloriaethau yma yn ychwanegol i’r Ysgoloriaeth o hyd at £1,800 y mae’r Drindod Dewi Sant eisoes yn ei gynnig i fyfyrwyr sydd yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.  Ceir manylion yr Ysgoloriaethau hynny yma.

Am ragor o wybodaeth, cysyllter â:

Swyddfa Cangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol y Drindod Dewi Sant

Gruff Ifan
Cydlynydd Addysg Cyfrwng Cymraeg
01267 676 618
g.ifan@ydrindoddewisant.ac.uk

 

Cyllid Myfyrwyr