Llysgenhadon Myfyrwyr
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cyflogi Llysgenhadon Myfyrwyr fel rhan o strategaeth ehangu mynediad y Brifysgol a’i gwaith yn y Partneriaethau Ymgyrraedd yn Ehangach, Ymgyrraedd yn Uwch. Rhan arall o’r gwaith yw gweithio yn yr Uned Farchnata a Chyfathrebu.
Amcan gweithgareddau Ehangu Mynediad yw annog pobl i ystyried Addysg Uwch, trwy godi eu hymwybyddiaeth, eu dyheadau a’u lefelau cyrhaeddiad. Bwriadant hefyd gefnogi’r iaith a’r diwylliant Cymraeg a dwyieithrwydd ym maes Addysg Uwch.
Mae Llysgenhadon Myfyrwyr yn helpu i redeg gweithgareddau ehangu mynediad gyda phobl ifanc sy’n astudio mewn ysgolion uwchradd a Cholegau Addysg Bellach yn ogystal ag yn y gymuned ehangach. Anelir y gweithgareddau hyn yn arbennig at bobl nad ydynt yn ystyried Addysg Uwch er bod ganddynt y potensial i elwa arni.
Gallai’r digwyddiadau gael eu cynnal ar gampysau’r Brifysgol, neu mewn ysgol neu goleg neu allan yn y gymuned. Gall digwyddiadau fod yn rhai cyffredinol neu yn benodol i bwnc. Gall fod digwyddiadau hefyd i rieni neu ofalwyr y bobl ifainc. Gall digwyddiadau mewn ysgolion neu golegau gynnwys mentora a chynnal clybiau a gweithgareddau ar ôl ysgol.
Ar gyfer y rhan fwyaf o’r gweithgareddau bydd angen i Lysgenhadon Myfyrwyr, ar ôl hyfforddiant, weithio gyda grwpiau bychain o fyfyrwyr ysgol neu goleg er mwyn:
- eu hannog i ystyried Addysg Uwch fel dewis ar gyfer y dyfodol;
- hwyluso gweithgareddau mewn grwpiau bychain;
- arwain trafodaethau grŵp;
- arwain teithiau o gwmpas y campws;
- rhoi gwybodaeth ac ateb cwestiynau ynglŷn â bywyd fel myfyriwr.
Bydd hyfforddiant a sesiynau briffio cyn pob digwyddiad, y bydd yn hanfodol i bawb fod yn bresennol ynddynt.
Bydd nifer o brosiectau yn y gymuned yn cael eu rhedeg yn ystod y flwyddyn a bydd angen i Lysgenhadon Myfyrwyr gael gwybodaeth benodol am sgiliau cynhyrchu i’r cyfryngau ar gyfer y gweithgaredd y bydd angen mentora aelodau o’r gymuned a phobl ifanc wrth iddynt wneud ffilmiau byr, gwe-lediadau ac ati. Rydym felly wrthi’n chwilio am geisiadau gan fyfyrwyr yn y disgyblaethau perthnasol ar gyfer y rolau hyn.
Mae’n bosibl hefyd y caiff Llysgenhadon Myfyrwyr eu cyflogi er mwyn hyrwyddo’r Brifysgol mewn gweithgareddau megis Ffeiri Addysg Uwch, Diwrnodau Agored, digwyddiadau UCAS ac ati. Yr Uned Farchnata a Chyfathrebu fydd yn cyflawni’r gwaith hwn.
Fe fydd pob un o’r Llysgenhadon Myfyrwyr yn cael ei gyfweld.
Y cyflog presennol yw £6.41 yr awr. Gweler isod am ddisgrifiad swydd a manyleb yr unigolyn.
I gael rhagor o fanylion a/neu drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â:
Trystan Rees
Swyddog Cyswllt Ehangu Mynediad
01267 676792
07875 974920
Disgrifiad Swydd
- Cynorthwyo’r Adran Marchnata a Chyfathrebu gyda’r gwaith o drefnu Diwrnodau Agored, Ymweliadau â'r Campws a Diwrnodau Ymweld UCAS.
- Cynorthwyo gyda’r Adran Ehangu Mynediad a Marchnata a Chyfathrebu gyda’r gwaith o drefnu ymweliadau â’r Brifysgol ar gyfer ysgolion a cholegau.
- Cynorthwyo’r Tîm Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr gyda’r gwaith o drefnu digwyddiadau i gyn-fyfyrwyr a gweithgareddau cysylltiedig eraill e.e. gwerthu nwyddau brand y Brifysgol adeg y seremoni raddio.
- Ymweld ag ysgolion a cholegau a mynd ati i gymryd rhan a chynorthwyo gyda'r gwaith o gynnal gweithgareddau a chyflwyniadau.
- Rhoi cyflwyniadau byr i grwpiau mawr o ddisgyblion a chynorthwyo grwpiau bach o ddisgyblion gyda gweithgareddau.
- Meithrin ymwybyddiaeth o’r ystod eang o gyrsiau, materion cyffredinol ynghylch bywyd myfyrwyr a datblygiadau mewnol y tu allan i’ch maes pwnc uniongyrchol.
- Cefnogi gweithgareddau ymarferol gyda myfyrwyr iau yn y Brifysgol a thu allan ar fentrau lleol a chenedlaethol.
- Cynorthwyo darpar fyfyrwyr i ddeall ac ymddiddori mewn addysg uwch trwy gynnig esiamplau cadarnhaol iddynt.
- Ysgogi a chodi dyheadau’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y gweithgareddau. Mae’r gwaith hwn yn golygu bod yn ymwybodol o’r rhwystrau y mae rhai disgyblion yn eu hwynebu ac a allai eu rhwystro rhag manteisio ar addysg uwch.
- Bod iddynt yn esiampl gadarnhaol o ran addysg uwch a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Llysgenhadon Myfyrwyr |
Hanfodol |
Dymunol |
|
Manyleb yr Unigolynn |
|||
|
Cymwysterau/ Addysg |
Myfyriwr ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant |
|
|
|
Gwybodaeth/Sgiliau/ Hyfforddiant |
Sgiliau cyfathrebu llafar rhagorol Y gallu i gyflwyno gerbron grwpiau mawr o bobl Y gallu i weithio ar ei ben ei hun ac fel rhan o dîm Y gallu i ddefnyddio’ch menter eich hun Dull aeddfed o drin sefyllfaoedd a allai fod yn sensitif |
Gwybodaeth am y system addysg Gwybodaeth am y materion sy’n effeithio ar bobl ifanc Gwybodaeth am Ehangu Mynediad Dealltwriaeth o gyn-fyfyrwyr |
|
|
Profiad |
Profiad o weithio gydag amrywiaeth o bobl o wahanol ddiwylliannau, cefndiroedd ac oedrannau Profiad o sgiliau gwasanaethau sgiliau cwsmeriaid |
Profiad o weithio gyda phobl ifanc |
|
|
Rhinweddau personol |
Cyfrifol Dibynadwy Trefnus Hawdd mynd ato Yn ysbrydoli pobl ynghylch addysg uwch Brwdfrydig (yn enwedig am Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a bywyd fel myfyriwr yma) |
Hyblyg
|
|
|
Ar gael |
Ar gael i fynd i’r diwrnod hyfforddi gorfodol |
||
Yn ogystal bydd gofyn i bob llysgennad gael Datgeliad Manwl gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol

