Adnoddau Electronig

Mae adnoddau electronig yn darparu mynegeion i gylchgronau ac, weithiau, i lyfrau ac adroddiadau. Mae rhai adnoddau electronig yn darparu testun llawn e.e. erthygl o gylchgrawn; mae eraill yn darparu crynodebau a chyfeirnodau. Os cewch anhawster wrth ddefnyddio un o’r adnoddau, anfonwch e-bost at cadcaerfyrddin@ydds.ac.uk neu cadllambed@ydds.ac.uk gydag enw’r adnodd a chan ddisgrifio’r problemau rydych yn eu profi.  Ceir rhestr o adnoddau rhad ac am ddim sy’n ddefnyddiol at astudio ar ein tudalen Adnoddau'r We

Mae angen enw defnyddiwr a chyfrinair personol Athens ar gyfer rhai adnoddau.  Mae canllawiau i'r adnoddau mwyaf poblogaidd ar gael ar ardal y CAD o system Blackboard / Moodle y Brifysgol.

Mae rhestrau cryno o’r adnoddau isod ar gael ar wahân hefyd:

Chwilio am e-gylchgronau

http://tsd-c.worldcat.org/openurlresolver/search


Mae chwilio am e-gylchgronau yn dod â holl adnoddau electronig y Brifysgol sydd â thestun llawn at ei gilydd drwy un porth, a gallwch ei chwilio yn ôl teitl y cylchgrawn.

Cliciwch ar lythyren i sgrolio lawr i adnoddau sy’n cychwyn â'r llythyren honno:

 A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y Z


ACLS Humanities E-Book

Athens Testun Llawn

Mewngofnodwch drwy 'Institutional login' neu 'Shibboleth login'. Wedyn dylech weld cwymplen o sefydliadau gwahanol. Sgroliwch lawr a dewiswch 'University of Wales Trinity Saint David'. Wedyn gofynnir i chi am eich enw defnyddiwr / cyfrinair Athens. 

Casgliad o fwy na 2,200 o lyfrau o safon uchel yn y dyniaethau gan fwy na 100 o gyhoeddwyr. Fe’u dewiswyd gan ysgolheigion oherwydd eu pwysigrwydd parhaol i’r maes a gellir eu chwilio’n gyflawn.

American Film Institute Catalog

Athens

Y prif adnodd ar gyfer y ffilmiau Americanaidd a gynhyrchwyd mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Ffilm Americanaidd (AFI). Mae arbenigwyr ffilm yr AFI wrthi’n barhaus yn paratoi ac yn diweddaru’r catalog yn ofalus.

Ancestry

Campws Rhai Testun Llawn

Yn Ancestry mae dros 4 biliwn o gofnodion achyddol ar gael i’w harchwilio, gan gynnwys cyfrifiadau hanesyddol a chofnodion plwyf, cofnodion milwrol a rhestrau teithwyr.

L'Année philologique

Campws Mynegai

Mae L'Annee Philologique yn mynegeio llyfrau, erthyglau mewn cyfnodolion a chasgliadau ym mhob un o'r disgyblaethau sy'n gysylltiedig ag astudio Groeg a'r hen fyd Rhufeinig.

ATLA Religion Database / ATLASerials

Athens Campws Rhai Testun Llawn

Mae ATLA Religion Database yn cefnogi ysgolheictod crefyddol a diwinyddol mewn addysg ac ymchwil ac mae’n cynnwys miloedd o ddyfyniadau o gyfrolau rhyngwladol a gweithiau aml-awdur ym maes crefydd.  Mae ATLA yn cynnwys rhestr lawn o erthyglau cyfnodolion, traethodau mewn gweithiau aml-awdur, ac adolygiadau llyfrau o dri mynegai print ATLA: Religion Index One (RIO), Religion Index Two (RIT), ac Index to Book Reviews in Religion (IBRR). Mae hefyd yn cynnwys adnoddau paratoi pregeth gyda darluniau.

Mae ATLA Serials yn cefnogi ysgolheictod ac ymchwil crefyddol a diwinyddol, ac mae’n cynnwys testun cyflawn miloedd o erthyglau cyfnodolion ac adolygiadau llyfrau o gyfrolau rhyngwladol a gweithiau aml-awdur ym maes crefydd.  Mae hefyd yn cynnwys adnoddau paratoi pregeth.

Archival Sound Recordings

Athens

Llyfrgell ddigidol ar-lein chwiliadwy o recordiadau sain un o drysordai'r byd o ran treftadaeth glywedol. Mae'r wefan arweiniol, sef archif sain y Llyfrgell Brydeinig, yn cynnig naw maes o gynnwys digidol y gallwch chi bori trwyddynt gan ddefnyddio coeden yn nhrefn y wyddor.

-- Yn ôl at y brig

BHI : British Humanities Index

Athens Campws Mynegai

Mae'n darparu cyfeiriadau at erthyglau am y dyniaethau mewn cylchgronau a phapurau newydd o 1985 tan y presennol.

Brill E-books: Classical Studies

Athens Campws Testun Llawn

Cronfa ddata o lyfrau ysgolheigaidd â thestun llawn y gellir ei chwilio mewn amrywiaeth o Astudiaethau Clasurol.

Brill Journal Archive

Athens Campws Rhai Testun Llawn

Casgliad cyffredinol o e-gylchgronau’n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau.  Sylwer ei bod yn bosibl nad ydym yn tanysgrifio i bob e-gylchgrawn a restrir ar y wefan hon.

Brill Online

Athens Testun Llawn

Yn cynnwys: Encyclopaedia of Islam; Jacoby Online (Fragmente der Griechischen Historiker); New Pauly (gwyddoniadur o’r byd clasurol); Supplementum Epigraphicum Graecum Online.

British Newspapers 1600-1900

Athens Campws Testun Llawn

Mae British Newspapers 1600-1900 yn gasgliad digidol sylweddol o bapurau hanesyddol Prydain.  Mae technegau cadwraeth a delweddu newydd ynghyd â phlatfform y gellir ei groes-chwilio, yn cynnig mynediad i’r archif hwn sydd o werth hanesyddol a diwylliannol.

British Periodicals

Athens Campws Rhai Testun Llawn

Trwy British Periodicals gellir archwilio testunau llawn cannoedd o gyfnodolion rhwng diwedd yr ail ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed, gan gynnwys miliynau o ddelweddau cydraniad uchel o dudalennau wedi’u copïo.

British Universities Film and Video Council (BUFVC)

Athens

Cronfeydd data sy’n hyrwyddo cynhyrchu, astudio a defnyddio delweddau symudol, sain a chyfryngau perthynol mewn addysg uwch ac ymchwil.

Business Source Complete

Athens Campws Testun Llawn

Mae Business Source Complete yn gronfa ddata ysgolheigaidd ddiffiniol sy’n darparu casgliad blaenllaw o gynnwys llyfryddol a thestun llawn. Mae’r gronfa ddata yn un gynhwysfawr gan gynnig mynegeion a chrynodebau i’r cylchgronau ysgolheigaidd pwysicaf ym maes busnes mor bell yn ôl â 1886. Hefyd darperir cyfeiriadau a ddyfynnwyd ac y gellir eu chwilio i fwy na 1,300 o gylchgronau.

-- Yn ôl at y brig

Cambridge Journals Online

Athens Rhai Testun Llawn

Casgliad cyffredinol o e-gylchgronau’n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau.  Sylwer ei bod yn bosibl nad ydym yn tanysgrifio i bob e-gylchgrawn a restrir ar y wefan hon.

Casgliad Burney o’r 17eg a’r 18fed Ganrif

Athens Campws Testun Llawn

Mae’r papurau newydd, a phamffledi newyddion a gasglwyd ynghyd gan y Parchedig Charles Burney (1757-1817) yn cynrychioli casgliad mawr o gyfryngau newyddion Saesneg yr 17eg a’r 18fed ganrif.  Yn Llundain y cyhoeddwyd y rhan fwyaf o’r oddeutu 700 cyfrol wedi’i rhwymo o bapurau newydd a phamffledi newyddion, fodd bynnag daw rhai papurau o ranbarthau Lloegr, Iwerddon a’r Alban, yn ogystal ag ychydig enghreifftiau o drefedigaethau America, Ewrop ac India.

-- Yn ôl at y brig

Digimap Collections

Athens

Mapiau a data gofodol ar-lein ar gyfer Prydain Fawr.

-- Yn ôl at y brig

Early English Books Online

Athens Testun Llawn

Mae Early English Books Online (EEBO) yn cynnwys delweddau ffacsimili digidol o dudalennau bron iawn pob gwaith a argraffwyd yn Lloegr, Iwerddon, Yr Alban, Cymru a Gogledd America Brydeinig, ynghyd â gweithiau mewn Saesneg a argraffwyd mewn lleoedd eraill o 1473 – 1700.

EBL E-Book Library

Athens Rhai Testun Llawn

Casgliad cyffredinol o e-lyfrau’n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau.

EBSCO E-book Collection (NetLibrary)

Athens Campws Rhai Testun Llawn

Casgliad cyffredinol o e-lyfrau’n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau.

Education Research Complete

Athens Campws Testun Llawn

Education Research Complete yw’r adnodd ar-lein mwyaf awdurdodol ar gyfer ymchwil addysgol. Trwyddo gellir manteisio ar y casgliad mwyaf yn y byd o ran nifer a chyflawnder o gyfnodolion addysg testun llawn. Ymhlith y testunau dan sylw mae pob lefel o addysg o blentyndod cynnar i addysg uwch, a phob arbenigedd addysgol, megis addysg amlieithog, addysg iechyd, a phrofion.

E-lyfrau Dawsonera

Athens Rhai Testun Llawn

Casgliad cyffredinol o e-lyfrau’n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau.

E-lyfrau Thomson Gale

Athens Campws Testun Llawn

Mynediad electronig at gyhoeddiadau ym meysydd Crefydd ac Athroniaeth.

European Sources Online

Campws

Gwasanaeth gwybodaeth sy'n canolbwyntio ar yr Undeb Ewropeaidd , gwledydd Ewrop ac ar faterion sy'n destun pryder i ddinasyddion a rhanddeiliaid yn Ewrop heddiw.

-- Yn ôl at y brig

Film Indexes Online

Athens Rhai Testun Llawn

Daw Film Indexes Online â Film Index International ac AFI Catalog at ei gilydd ar un wefan. O’u chwilio ar y cyd, maent yn dod â lefel ddihafal o fanylder i’ch ymchwil.

Film Index International

Athens Rhai Testun Llawn

Mae Film Index International (FII) yn brif adnodd gwybodaeth ar gyfer ffilmiau adloniant a phersonoliaethau a gynhyrchwyd mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Ffilm Prydeinig.  Mae FII yn cwmpasu’r maes rhyngwladol gan fynegeio ffilmiau o fwy na 170 o wledydd.

Firstsearch (OCLC)

Athens Rhai Testun Llawn

Mae FirstSearch yn offeryn ar-lein ar gyfer chwilio am gyfeiriadau llyfryddol. Mae’n darparu cynnwys o safon o WorldCat a dwsinau o gronfeydd data uchel eu parch sy’n cynnig cynnwys llyfryddol a thestun llawn.

-- Yn ôl at y brig

GreenFILE

Athens Campws Rhai Testun Llawn

Mae GreenFILE yn cynnig gwybodaeth sy’n cwmpasu pob agwedd ar effeithiau dynol ar yr amgylchedd. Mae’i gasgliad o deitlau ysgolheigaidd, llywodraeth a diddordeb cyffredinol yn cynnwys gwybodaeth am gynhesu byd-eang, adeiladu gwyrdd, llygredd, amaethyddiaeth gynaliadwy, egni adnewyddadwy, ailgylchu a rhagor. Mae’r gronfa ddata yn darparu mynegeio a chrynodebau ar gyfer cofnodion, yn ogystal â mynediad agored testun llawn ar gyfer mwy na 4,600 o gofnodion.

-- Yn ôl at y brig

House Of Commons Parliamentary Papers (HCPP)

Athens Campws Testun Llawn

Mae HCPP yn cyflwyno testun llawn chwiladwy ar gyfer papurau seneddol, ynghyd â mynegai fanwl.

-- Yn ôl at y brig

Index to Christian Art (Mynegai i Gelfyddyd Gristnogol)

Campws

Hon yw’r gronfa ddata fwyaf o gelfyddyd yr Oesoedd Canol sydd ar gael ac ynddi gofnodion testun llawn ar gyfer bron 80,000 o weithiau celf o'r cyfnod apostolaidd cynnar tan 1550 OC. Bellach mae bron 100,000 o ddelweddau ar gael trwy’r gronfa ddata hon.  Daw'r rhain o sefydliadau megis Llyfrgell Morgan, Efrog Newydd, Dumbarton Oaks, Washington D.C., Athrofa Gelf Courtauld, Llundain, Prifysgol Princeton, Casgliad Delweddau Jane Vadnal a Chasgliad Ffotograffig James Austin ynghyd â nifer o gasgliadau preifat a chyhoeddus eraill.

Index to Theses (Mynegai i Draethodau Ymchwil)

Campws Mynegai

Angen cyfrinair i'w ddefnyddio oddi ar y campws - Cysylltu â ni

Rhestr gynhwysfawr o draethodau ymchwil ynghyd â chrynodebau a dderbyniwyd ar gyfer graddau uwch gan brifysgolion ym Mhrydain Fawr ac Iwerddon er 1716.

IngentaConnect

Athens Rhai Testun Llawn

Casgliad cyffredinol o e-gylchgronau’n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau.  Sylwer ei bod yn bosibl nad ydym yn tanysgrifio i bob e-gylchgrawn a restrir ar y wefan hon.

International Index to Music Periodicals (IIMP)

Athens Campws Testun Llawn

Mae IIMP yn adnodd hanfodol ar gyfer addysgu ac astudio cerddoriaeth, ac mae’n darparu mynegeion a chrynodebau i fwy na 400 o gylchgronau craidd cerddoriaeth. Mae IIMP yn cwmpasu addysg cerddoriaeth, astudiaethau perfformio, damcaniaeth cyfansoddi, ethnogerddoleg, a phob math o gerddoriaeth boblogaidd

International Index to the Performing Arts (IIPA)

Athens Campws Rhai Testun Llawn

Mae IIPA â thestun llawn yn adnodd deinamig i’r celfyddydau perfformio sy’n darparu mynegeion a chrynodebau i fwy na 210 o gylchgronau, a thestun llawn i fwy na 50 o gylchgronau.

-- Yn ôl at y brig

JISC MediaHub

Athens

Mae JISC MediaHub yn cynnwys mwy na 137,000 o eitemau amlgyfrwng, yn cynnwys mwy na 3,600 awr o ffilm a mwy na 50,000 o ddelweddau o NewsFilm Online, Film & Sound Online ac archif newydd Digital Images for Education.

John Johnson Collection

Athens Campws Testun Llawn

Lluniau lliw y mae modd eu chwilio’n llawn o 65,000 o eitemau o Gasgliad John Johnson Llyfrgell y Bodley o Ephemera Printiedig, sy’n rhoi cipolwg diddorol ar natur gyfnewidiol bywyd pob dydd yn y ddeunawfed ganrif, y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. 

JSTOR

Athens Rhai Testun Llawn

Mae’r casgliad yn dod â theitlau craidd ym meysydd economeg, cyllid, y celfyddydau a’r dyniaethau at ei gilydd gan gynnwys llawer o gyhoeddiadau gan gymdeithasau ysgolheigaidd blaenllaw. Mae ystod o gylchgronau ymchwil beirniadol ym meysydd cyfrifeg, cysylltiadau llafur, marchnata, rheolaeth, ymchwil gweithrediadau ac asesiad risg yn ogystal â theitlau pwysig ym meysydd cerddoriaeth, astudiaethau ffilm, llên gwerin, y celfyddydau perfformio, crefydd, a hanes ac astudiaeth celf a phensaernïaeth. Mae’r ystod dyddiadau yn cynnwys hyd at y tair neu bedair blynedd diwethaf.

-- Yn ôl at y brig

Landmap

Athens

Mae Gwasanaeth Landmap yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel ar gyfer lawrlwytho data gofodol. Cyfoethogir a chefnogir y data gan amrywiaeth o ddeunyddiau dysgu.

Literature Online

Athens Rhai Testun Llawn

Mae Literature Online yn llyfrgell o fwy na 300,000 o gerddi, dramâu, rhyddiaith a bywgraffiadau y gellir ei chwilio.

-- Yn ôl at y brig

MLA International Bibliography / Directory of Periodicals

Athens Campws Mynegai

-- Yn ôl at y brig

Newsbank

Athens Campws Testun Llawn

Wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer llyfrgelloedd yng Nghymru, mae'r Papur Newydd ar-lein hwn yn cynnwys teitlau poblogaidd o Gymru, gan dalu sylw manwl i faterion a digwyddiadau lleol a rhanbarthol. Fe gynhwysir teitlau adnabyddus hefyd o Loegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy'n ehangu cwmpas yr arf ymchwil grymus hwn yn bellach.
Yn cael ei ddiweddaru'n ddyddiol, mae Newsbank UK yn darparu miliynau o erthyglau papur newydd wedi eu harchifo y gall ymchwilwyr eu defnyddio i leoli ffynonellau, cymharu safbwyntiau a dilyn pynciau yn hanesyddol ac yn ddaearyddol. Gall defnyddwyr chwilio yn gyflym ac yn hawdd naill ai am bapur newydd Cymreig unigol neu am deitlau o Gymru a'r DU ar yr un pryd. Gellir creu a chadw chwiliadau wedi eu haddasu i'w defnyddio yn y dyfodol neu i'w ffurfweddu ar gyfer hysbysiadau e-bost.

NewsFilm Online

Athens

Mae Newsfilm Online yn gasgliad o fwy na 3,000 o oriau o storïau'r newyddion wedi'u digideiddio sy'n gadael i ddefnyddwyr weld a chlywed y digwyddiadau a luniodd yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain.

-- Yn ôl at y brig

Oxford Art Online

Athens Campws Testun Llawn

Mae Grove Art Online yn cwmpasu pob agwedd ar y celfyddydau gweledol o’r cyfnod cynhanes hyd heddiw, o gelfyddyd a phensaernïaeth i gerameg a ffotograffiaeth.  Mae’n rhoi mynediad i destun mwy na 50,000 o erthyglau o’r Dictionary of Art a’i 34 cyfrol, yr Encyclopedia of Aesthetics, y Concise Oxford Dictionary of Art Terms, a’r Oxford Companion to Western Art.

Hefyd mae’n cynnwys delweddau o’r gweithiau celf amlycaf yn y maes, trwy bartneriaethau â sefydliadau rhagorol megis Amgueddfa Fetropolitan Celfyddyd (Efrog Newydd), Llyfrgell Gelf Bridgeman, Yr Amgueddfa Brydeinig, yr Amgueddfa Celfyddyd Fodern (MoMA) (Efrog Newydd), Art Resource, ARTstor, Art Images for College Teaching (AICT), ac orielau rhyngwladol ac artistiaid unigol niferus. 

Oxford Dictionary of National Biography

Athens Testun Llawn

50,000 o fywgraffiadau o bobl a luniodd hanes Ynysoedd Prydain a thu hwnt, o’r oesoedd cynharaf i’r flwyddyn 2000.

Oxford Handbooks Online

Athens Rhai Testun Llawn

Testunau llawn llawlyfrau nodedig Gwasg Prifysgol Rhydychen ym maes Rheolaeth Busnes, Gwyddor Gwleidyddiaeth a Chrefydd.

Oxford Islamic Studies Online

Athens Testun Llawn

Adnodd ysgolheigaidd ar-lein sy’n cynnig mynediad i ystod eang o adnoddau cyfeiriadol yn y Saesneg ar y byd Islamaidd.

Oxford Journals Archive

Athens Rhai Testun Llawn

Casgliad cyffredinol o e-gylchgronau’n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau.  Sylwer ei bod yn bosibl nad ydym yn tanysgrifio i bob e-gylchgrawn a restrir ar y wefan hon.

Oxford Journals

Athens Rhai Testun Llawn

Casgliad cyffredinol o e-gylchgronau’n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau.  Sylwer ei bod yn bosibl nad ydym yn tanysgrifio i bob e-gylchgrawn a restrir ar y wefan hon.

Oxford Reference Online

Athens Rhai Testun Llawn

Mae Oxford Reference Online yn dod â gweithiau cyfeiriol ieithyddol a phynciol gan un o gyhoeddwyr cyfeirlyfrau mwyaf a mwyaf dibynadwy’r byd at ei gilydd mewn un adnodd y gellir ei chwilio.

Oxford Scholarship Online

Athens Testun Llawn

Cronfa ddata o lyfrau ysgolheigaidd â thestun llawn y gellir ei chwilio mewn amrywiaeth o bynciau yn cynnwys Busnes, Rheolaeth, Astudiaethau Clasurol, Hanes, Llenyddiaeth, Athroniaeth a Chrefydd.

-- Yn ôl at y brig

Papurau Newydd o'r 19eg Ganrif yn y Llyfrgell Brydeinig

Athens Campws Testun Llawn

Mae'r adnodd digidol hwn yn darparu mynediad i bapurau newydd Prydeinig y 19eg ganrif, boed yn bapurau cenedlaethol, rhanbarthol neu leol. Mae'n cynnwys 48 o deitlau, gyda chyfanswm o oddeutu 2.2 miliwn o dudalennau, sy'n adlewyrchu datblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol y cyfnod.

Periodicals Archive Online

Athens Campws Rhai Testun Llawn

Cronfa ddata archifol o ôl-rifynnau cylchgronau yn y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol wedi’u digideiddio. Mae Periodicals Archive Online yn darparu cylchgronau o’u rhifyn cyntaf hyd at 1995 ac mae’n cwmpasu 37 o bynciau, mewn nifer o ieithoedd.

-- Yn ôl at y brig

Philosopher's Index

Athens Mynegai

Mae’r Philosopher’s Index yn darparu mynegeion a chrynodebau ar gyfer llyfrau a chylchgronau athroniaeth a meysydd cysylltiedig. Mae’n cwmpasu meysydd moeseg, estheteg, athroniaeth gymdeithasol, athroniaeth wleidyddol, epistemoleg, a rhesymeg metaffiseg yn ogystal â deunyddiau ar athroniaeth y gyfraith, crefydd, gwyddoniaeth, hanes, addysg ac iaith.

Project Muse

Athens Campws Testun Llawn

Mae Project MUSE yn ffrwyth cydweithio unigryw rhwng llyfrgelloedd a chyhoeddwyr i ddarparu mynediad ar-lein sy'n destun llawn 100%, yn hawdd ei ddefnyddio, i fwy na 350 o gylchgronau o ansawdd uchel yn y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol, a hynny oddi wrth fwy na 60 o gyhoeddwyr ysgolheigaidd.

PsycARTICLES

Athens Campws Testun Llawn

Mae PsycARTICLES yn gronfa ddata sy’n cynnwys erthyglau testun llawn o gylchgronau a gyhoeddir gan Gymdeithas Seicolegol America, Sefydliad Cyhoeddi Addysgol yr APA, Cymdeithas Seicolegol Canada, a Grŵp Cyhoeddi Hogrefe.

-- Yn ôl at y brig

Radio at BUFVC

Athens

Archifau Radio Lleol Annibynnol o 1973 hyd 1996.

-- Yn ôl at y brig

Safari Technical Books Online

Athens Rhai Testun Llawn

Mynediad i lyfrau cyfrifiadura a TG.

SAGE Journals Online

Athens Campws Rhai Testun Llawn

Casgliad cyffredinol o e-gylchgronau’n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau.  Sylwer ei bod yn bosibl nad ydym yn tanysgrifio i bob e-gylchgrawn a restrir ar y wefan hon.

Social Policy and Practice

Athens Athens
Campws Ar y campws
Mynegai

Mae Social Policy and Practice (yn cynnwys ChildData) yn gronfa ddata lyfryddol bwysig gyda chrynodebau, ac mae’n cwmpasu polisi cymdeithasol, iechyd cyhoeddus, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, y gyfraith, datblygiad cymunedol ac iechyd meddwl a chymunedol a seilir ar dystiolaeth. Mae’r gronfa ddata’n arbennig o gryf ar ofal cymdeithasol i’r ifanc a’r henoed.
Mae’r adnodd yn dod â data wedi’i hintegreiddio o bum prif sefydliad dan un rhyngwyneb chwilio sy’n cynnwys tua 200,000 o gofnodion. Mae’r gronfa ddata’n cynnwys cofnodion o 1981 hyd heddiw, gyda 24,000 o gofnodion newydd yn cael eu hychwanegu bob blwyddyn ar gyfartaledd.
Dyma’r sefydliadau: Canolfan Polisi ar Heneiddio, Awdurdod Llundain Fwyaf, IDOX, Y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE)a Biwro Cenedlaethol y Plant.
Mae’r rhan fwyaf o’r deunydd yn deillio o’r DU ond mae deunydd Ewropeaidd ac o’r UDA yma hefyd.
Mae tua 50% o’r cyfeiriadau i lenyddiaeth ‘lwyd’, gan gynnwys adroddiadau a led-gyhoeddwyd, papurau gweithredol, adroddiadau llywodraeth leol a chanolog, a deunydd o’r sector gwirfoddol ac elusennau.

SPORTDiscus

Athens Campws Rhai Testun Llawn

Cronfa ddata lyfryddol ym meysydd chwaraeon, ffitrwydd a meddyginiaeth chwaraeon sy'n cynnwys mwy na 500,000 o gyfeiriadau, 20,000 o draethodau hir, 10,000 o gyfeiriadau safweoedd a chysylltiadau at erthyglau testun llawn.

State Papers Online

Athens Campws Rhai Testun Llawn

Mae State Papers Online, 1509-1714 yn archif chwiliadwy o Ddogfennau Gwladol Cartref a Thramor, yr Alban, Iwerddon, yn ystod yr 16eg a’r 17eg ganrif, ynghyd â Chofrestrau'r Cyfrin Gyngor, at ddibenion prosiectau ymchwil a dysgu ym maes gwleidyddiaeth, llywodraeth, a hanes cymdeithasol, economaidd a chrefyddol.

SwetsWise

Athens Rhai Testun Llawn

Casgliad cyffredinol o e-gylchgronau’n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau.  Sylwer ei bod yn bosibl nad ydym yn tanysgrifio i bob e-gylchgrawn a restrir ar y wefan hon.

-- Yn ôl at y brig

Taylor and Francis E-Book Library

Athens Rhai Testun Llawn

Casgliad cyffredinol o e-lyfrau’n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau.

Taylor and Francis Online

Athens Campws Rhai Testun Llawn

Casgliad cyffredinol o e-gylchgronau’n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau.  Sylwer ei bod yn bosibl nad ydym yn tanysgrifio i bob e-gylchgrawn a restrir ar y wefan hon.

Teacher Reference Center

Athens Campws Mynegai

Mae’n darparu mynegeio a chrynodebau ar gyfer mwy na 270 o’r cylchgronau mwyaf poblogaidd ar gyfer athrawon a gweinyddwyr er mwyn helpu addysgwyr proffesiynol.

Testaments to the Holocaust

Athens Campws Testun Llawn

Yn yr adnodd digidol hwn, ceir casgliad unigryw o adroddiadau llygad-dystion o amgueddfa Holocost hynaf y byd, a sefydlwyd gan Alfred Wiener o dan yr enw "Swyddfa Ganolog Gwybodaeth Iddewig" ym 1939. Yn y casgliad ceir adroddiadau y gellir eu harchwilio’n llawn o fywyd yn yr Almaen o dan y Natsïaid, ynghyd â ffotograffau, deunyddiau propaganda megis gwerslyfrau ysgolion, cyhoeddiadau cyfyngedig eu cylchrediad a chyfresi prin mewn diwyg unigryw o hyblyg.

-- Yn ôl at y brig

Thesaurus Linguae Latinae

Campws

Geiriadur Lladin gyda gwybodaeth ychwanegol am awduron, cyfnodau amser, cyhoeddiadau ac agraffiadau.

Times Digital Archive

Athens Campws Testun Llawn

Archif digidol cyflawn y Times (Llundain) 1785 - 1985.  Mae’r papur newydd cyfan wedi’i gofnodi, a phob erthygl , hysbyseb a darlun/llun wedi’u rhannu’n gategorïau er mwyn hwyluso’r gwaith o chwilio.

-- Yn ôl at y brig

Wiley

Athens Rhai Testun Llawn

Casgliad cyffredinol o e-gylchgronau’n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau.  Sylwer ei bod yn bosibl nad ydym yn tanysgrifio i bob e-gylchgrawn a restrir ar y wefan hon.

-- Yn ôl at y brig

ZETOC - BL Electronic Table of Contents

Athens Mynegai

Mynediad rhydd i sefydliadau AB ac AU yn y DG i gronfa ddata ‘Electronic Table of Contents' y Llyfrgell Brydeinig sy'n cynnwys dros 20,000 o deitlau cyfnodolion cyfredol.

-- Yn ôl at y brig

WorldCat Local WorldCat Local
HIP HIP (My Account)
Voyager Voyager (My Account)
Blogger Blog y CAD
Facebook Facebook
Google Plus Google+
Twitter Twitter
Blackboard Blackboard
Moodle Moodle

 


Allwedd

Mae rhai adnoddau electronig yn darparu testun llawn e.e. erthygl o gylchgrawn; mae eraill yn darparu crynodebau a chyfeirnodau. Mae angen enw defnyddiwr a chyfrinair personol Athens ar gyfer rhai adnoddau. 

Athens
Gallwch gael mynediad i’r adnodd hwn trwy ddefnyddio’ch cyfrif Athens.

Campws
Mae’r adnodd hwn ar gael ar y campws heb fewngofnodi.

Testun Llawn
Darperir cynnwys neu erthyglau gyda’r testun llawn.

Rhai Testun Llawn
Darperir rhywfaint o’r cynnwys gyda’r testun llawn.  Mae’n bosibl y bydd peth o’r wybodaeth ar ffurf crynodebau neu gyfeiriadau at ddeunyddiau eraill yn unig.

Mynegai
Darperir mynegai a / neu grynodebau yn unig.