Casgliad Papurau Newydd

British Newspapers 1600-1900

Athens Campws Testun Llawn

Mae British Newspapers 1600-1900 yn gasgliad digidol sylweddol o bapurau hanesyddol Prydain.  Mae technegau cadwraeth a delweddu newydd ynghyd â phlatfform y gellir ei groes-chwilio, yn cynnig mynediad i’r archif hwn sydd o werth hanesyddol a diwylliannol.

Casgliad Burney o’r 17eg a’r 18fed Ganrif

Athens Campws Testun Llawn

Mae’r papurau newydd, a phamffledi newyddion a gasglwyd ynghyd gan y Parchedig Charles Burney (1757-1817) yn cynrychioli casgliad mawr o gyfryngau newyddion Saesneg yr 17eg a’r 18fed ganrif.  Yn Llundain y cyhoeddwyd y rhan fwyaf o’r oddeutu 700 cyfrol wedi’i rhwymo o bapurau newydd a phamffledi newyddion, fodd bynnag daw rhai papurau o ranbarthau Lloegr, Iwerddon a’r Alban, yn ogystal ag ychydig enghreifftiau o drefedigaethau America, Ewrop ac India.

Papurau Newydd o'r 19eg Ganrif yn y Llyfrgell Brydeinig

Athens Campws Testun Llawn

Mae'r adnodd digidol hwn yn darparu mynediad i bapurau newydd Prydeinig y 19eg ganrif, boed yn bapurau cenedlaethol, rhanbarthol neu leol. Mae'n cynnwys 48 o deitlau, gyda chyfanswm o oddeutu 2.2 miliwn o dudalennau, sy'n adlewyrchu datblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol y cyfnod.

Newsbank

Athens Campws Testun Llawn

Wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer llyfrgelloedd yng Nghymru, mae'r Papur Newydd ar-lein hwn yn cynnwys teitlau poblogaidd o Gymru, gan dalu sylw manwl i faterion a digwyddiadau lleol a rhanbarthol. Fe gynhwysir teitlau adnabyddus hefyd o Loegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy'n ehangu cwmpas yr arf ymchwil grymus hwn yn bellach.
Yn cael ei ddiweddaru'n ddyddiol, mae Newsbank UK yn darparu miliynau o erthyglau papur newydd wedi eu harchifo y gall ymchwilwyr eu defnyddio i leoli ffynonellau, cymharu safbwyntiau a dilyn pynciau yn hanesyddol ac yn ddaearyddol. Gall defnyddwyr chwilio yn gyflym ac yn hawdd naill ai am bapur newydd Cymreig unigol neu am deitlau o Gymru a'r DU ar yr un pryd. Gellir creu a chadw chwiliadau wedi eu haddasu i'w defnyddio yn y dyfodol neu i'w ffurfweddu ar gyfer hysbysiadau e-bost.

Times Digital Archive

Athens Campws Testun Llawn

Archif digidol cyflawn y Times (Llundain) 1785 - 1985.  Mae’r papur newydd cyfan wedi’i gofnodi, a phob erthygl , hysbyseb a darlun/llun wedi’u rhannu’n gategorïau er mwyn hwyluso’r gwaith o chwilio.

WorldCat Local WorldCat Local
HIP HIP (My Account)
Voyager Voyager (My Account)
Blogger Blog y CAD
Facebook Facebook
Google Plus Google+
Twitter Twitter
Blackboard Blackboard
Moodle Moodle

 


Allwedd

Mae rhai adnoddau electronig yn darparu testun llawn e.e. erthygl o gylchgrawn; mae eraill yn darparu crynodebau a chyfeirnodau. Mae angen enw defnyddiwr a chyfrinair personol Athens ar gyfer rhai adnoddau. 

Athens
Gallwch gael mynediad i’r adnodd hwn trwy ddefnyddio’ch cyfrif Athens.

Campws
Mae’r adnodd hwn ar gael ar y campws heb fewngofnodi.

Testun Llawn
Darperir cynnwys neu erthyglau gyda’r testun llawn.

Rhai Testun Llawn
Darperir rhywfaint o’r cynnwys gyda’r testun llawn.  Mae’n bosibl y bydd peth o’r wybodaeth ar ffurf crynodebau neu gyfeiriadau at ddeunyddiau eraill yn unig.

Mynegai
Darperir mynegai a / neu grynodebau yn unig.