Dirwyon
Er mwyn pwysleisio'r angen i ddychwelyd eitemau ar fenthyg yn brydlon, codir tâl am eitemau hwyr.
Gall dirwyon gynyddu hyd at £10 yr eitem am bob benthyciad. Yn ystod y tymor, efallai na chaniateir ichi fenthyg deunyddiau newydd os oes dirwyon yn ddyledus gennych chi. Hefyd efallai y byddwch chi'n cael eich atal rhag adnewyddu eitemau sydd ar eich cyfrif yn barod, os oes dirwyon gormodol yn ddyledus gennych chi. Tuag at ddiwedd pob tymor, efallai y gofynnir ichi dalu dirwyon sy'n ddyledus gennych chi cyn cyfnodau’r gwyliau. Hefyd gofynnir ichi glirio pob dirwy oddi ar eich cyfrif ar ddiwedd bob blwyddyn academaidd.
Codir dirwyon fel a ganlyn:
| Benthyciad Safonol | 20c y dydd | |
| Benthyciad Safonol a alwyd yn ôl | £1 y dydd | |
| Band coch | £1 y dydd | |
| Band melyn | £2 y dydd | |
| Band glas | 20c yr awr (neu rhan o awr) | |
| Cylchgronau | £1 y dydd | |
| Gliniaduron | £10 y dydd |

