Dod o hyd i Adnoddau

Y ffordd hawsaf i ddod o hyd i adnoddau yn y CAD yw trwy ddefnyddio’n catalog. Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i adnodd ar y catalog y mae diddordeb gennych ynddo, bydd angen i chi nodi’i gasgliad a’i rif dosbarth (call number). Mae’r CAD yn defnyddio System Ddegol Dewey, ond mae rhai lleoliadau ar wahân ar gyfer casgliadau arbennig.

Os nad yw’r deunydd sydd ei angen arnoch yn y Ganolfan Adnoddau Dysgu, gallwch wneud cais am Fenthyciad Rhyng-lyfrgellol (ILL). Mae hwn yn ein galluogi i ofyn am y deunydd sydd ei angen arnoch o lyfrgell arall. A wnewch chi chwilio yn ein catalog cyn archebu ILL.

Casgliadau: Campws Caerfyrddin

Nodir y casgliadau ar y catalog a thrwy label ar feingefn y llyfr fel a ganlyn:

BIG   Llyfrau Mawr
CYM   Casgliad Cymraeg: llenyddiaeth Gymraeg ac astudiaethau beirniadol ohoni
H   Gwyddor Iechyd
HXL   Gwyddor Iechyd Gorfaint
MAP   Mapiau
REF   Cyfeiriol
SCW   Cyngor Chwaraeon Cymru
SH   Hunan Gymorth
TP   Ymarfer Dysgu
WIC   Coleg yr Annibynwyr Cymraeg
XL   Gorfaint
-   Arteffactau (ar gyfer addysgu)

Efallai y gwelwch hefyd ar y catalog fod rhai o’n hadnoddau wedi’u lleoli yn y Stacks, Store neu ‘Swansea Store’.  A wnewch chi gysylltu â ni i wneud cais am yr adnoddau hyn.

Casgliadau: Campws Llambed

Casgliadau Arbennig

Fideo'r CAD: Campws Caerfyrddin

Fideo'r CAD: Campws Llambed