Sut i Fenthyg

Benthyg a dychwelyd adnoddau

Mae peiriannau hunanwasanaeth ar gael yn Llyfrgell Campws Caerfyrddin a Llyfrgell Campws Llambed lle gallwch fenthyg a dychwelyd eitemau. Unwaith rydych wedi dewis yr eitemau rydych am eu benthyg, ewch â nhw a’ch cerdyn i’r peiriant hunanwasanaeth, lle cewch dderbynneb sy’n dangos y dyddiad dychwelyd.

Blwch dychwelyd llyfrau

Mae blwch dychwelyd llyfrau wrth fynedfa Llyfrgell Campws Llambed a Llyfrgell Campws Caerfyrddin i ddychwelyd eitemau yn ystod oriau cau. Peidiwch â defnyddio’r blychau dychwelyd llyfrau ar gyfer eitemau y mae dirwy’n ddyledus arnynt os gwelwch yn dda.

Ar gampws Caerfyrddin, mae’r blwch gwyn i ddychwelyd llyfrau tu fewn i'r drysau awtomatig yn y fynedfa i'r Brifysgol sy'n arwain i'r Llyfrgell a'r Cwad.    Mae’r drysau awtomatig ar agor ar yr amseroedd canlynol:

Llun – Gwener:  5.30am – 10.00pm (ar gau ar Wyliau Banc)
Sadwrn – Sul:  9.00am -   7.00pm

Tu allan i’r amseroedd hyn galwch wrth ffenest y Porthor i ofyn am agor y drysau.