Canllaw i Hawlfraint
Beth yw hawlfraint?
Hawl eiddo dros waith a gynhyrchwyd gan awdur neu grëwr yw hawlfraint. Dan rai amgylchiadau delir hawlfraint gan unigolyn neu gorff arall, perthynas agosaf awdur, er enghraifft, neu gwmni cyhoeddi. Yr hyn sy’n bwysig yw fod yr hawl hwn yn cynnwys atgynhyrchu’r gwaith mewn cyflwr newidiedig hyd yn oed neu trwy ddefnyddio cyfryngau eraill. Gall yr hawliau cyfreithiol dros ddeunydd fod yn rhai economaidd (yn ymwneud â buddiannau ariannol y sawl sy’n dal yr hawlfraint) a moesol (yn gysylltiedig ag enw da yr awdur neu’r crëwr).
Pa ddeunyddiau sy’n cael eu cynnwys gan hawlfraint?
Mae hawlfraint yn berthnasol i weithiau a gynhyrchwyd ar ffurf papur ac i recordiadau sain a gweledol a ddelir ar dâp, disg neu fformat arall gan gynnwys y rhyngrwyd. Gall y rhain fod yn weithiau llenyddol, dramatig neu gerddorol, darluniau, ffotograffau, recordiadau, darllediadau, cynlluniau a gweithiau artistig eraill, rhaglenni cyfrifiadur, setiau data, a threfniadau argraffol penodol hyd yn oed. Mae gwarchodaeth hawlfraint yn awtomatig ac y mae copïo unrhyw beth heb ganiatâd yn torri hawlfraint y perchennog ac y mae’n anghyfreithlon. Mae hawlfraint awdur yn para am 70 mlynedd wedi marwolaeth yr awdur, ond nid yw hyn yn sail dda bob amser i gopïo gwaith arbennig gan y gall yr hawlfraint fod wedi cael ei basio ymlaen i rywun arall.
Beth alla’i ei gopïo?
O dan y Ddeddf Hawlfraint, Cynlluniau a Phatentau 1988, mae ‘delio’n deg’yn caniatáu copïo cyfyngedig o ddeunydd hawlfraint ar gyfer ymchwil ac astudiaeth breifat.
Nid oes unrhyw ddiffiniad manwl gywir o’r hyn sy’n deg, ond mae’n dibynnu ar (i) cyfran y gwreiddiol sy’n cael ei gopïo, a (ii) a yw’r copïo yn cystadlu â defnydd y gallai’r perchennog ei wneud ohono. Gellir copïo detholiadau bach o waith i ddibenion beirniadaeth neu adolygiad hefyd cyn belled â bod y gwreiddiol yn cael ei gydnabod yn ddigonol. Caniateir delio’n deg â gwaith ar wahân i ffotograff i ddibenion cofnodi digwyddiadau cyfoes hefyd os yw’n cael ei gydnabod yn ddigonol, ond nid yw hyn yn cynnwys mater hanesyddol sy’n deilwng o sylw.
Fel arall, mae’r math o ddelio’n deg sy’n berthnasol i’r Brifysgol yn ymwneud â CHOPÏAU UNIGOL AR GYFER ASTUDIAETH BREIFAT NEU YMCHWIL. O ganlyniad i ddeddfwriaeth ddiweddar, rhaid i’r ymchwil neu’r astudiaeth breifat yma fod o natur anfasnachol. O ran y rhan fwyaf o weithiau a gyhoeddwyd mae arfer sydd wedi hen sefydlu yn awgrymu y gallwch, i’r dibenion hyn, gopïo 5 y cant o waith neu:
- Un bennod gyfan o lyfr:
- Un erthygl y rhifyn o gylchgrawn neu set o drafodion cynhadledd;
- Hyd at 10 y cant (mwyafswm o 20 tudalen) fesul llyfr byr (heb benodau), adroddiad, taflen neu Fanyleb Safonol;
- Un gerdd neu stori fer (mwyafswm o 10 tudalen) allan o ddetholiad;
- Un darlun ar wahân neu fap hyd at faint A4 (ond gellir cynnwys darluniau sy’n rhan annatod o erthyglau/penodau yng nghategorïau 1 a 2 uchod);
- Detholiadau byr yn unig o weithiau cerddorol (nid gweithiau neu symudiadau cyfan) a dim copïo i ddibenion perfformio.
NID yw delio’n deg yn berthnasol i ailgopïo o’r un gwaith sy’n mynd dros ben y cyfyngiadau hyn, neu i gopïo ar gyfer rhywun arall os yw’n debygol o arwain at gopïau o’r un deunydd i raddau helaeth yn cael eu darparu i fwy nag un person ar yr un adeg i raddau helaeth ac i’r un diben i raddau helaeth. Fodd bynnag, mae’r Brifysgol yn dal trwydded gan yr Asiantaeth Drwyddedu Hawlfraint (Copyright Licensing Agency - CLA) sy’n caniatáu ffotocopïo lluosog dan amodau arbennig. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion yn ymwneud â hyn a thrwyddedau eraill sy’n cael eu dal gan y Brifysgol yma.
Dim ond crynodeb byr yw hwn, a gall llawer ddibynnu ar amgylchiadau penodol. Os ydych chi’n ansicr, cysylltwch â staff y CAD os gwelwch yn dda.
Os fyddwch chi’n torri’r gyfraith fe allech CHI gael eich erlyn am iawndal. Fe fyddech chi hefyd yn torri rheolau’r Brifysgol ac yn destun camau disgyblu.
Arolwg Ordnans
Copïo mapiau Ordnans i ddibenion addysgol
1. Cyflwyniad
1.1 Dylai pob sefydliad addysgol fod yn ymwybodol o fodolaeth hawlfraint y Goron ar fapiau Ordnans a mapiau Ordnans-seiliedig.
1.2 Rhaid i brifysgolion, ysgolion annibynnol, ysgolion gwirfoddol a sefydliadau addysgol sydd ddim yn cael eu hariannu gan eu hawdurdodau lleol gael trwydded cyn y gellir gwneud unrhyw gopïo.
1.3 Gellir gwneud copïau i ddibenion dysgu yn unig, naill ai fel cymhorthion dysgu i ddarlithwyr, projectau neu arholiadau a osodwyd ar gyfer myfyrwyr.
1.4 Mae mapiau Ordnans-seiliedig, er enghraifft cyhoeddiadau masnachol A-Z®, Goad Plans, Estate Publications, George Philips a G.I. Barnetts hefyd yn dod o dan hawlfraint y Goron. Mae'n rhaid i chi gael caniatâd o flaen llaw gan y cyhoeddwr arall er mwyn copïo’r mapiau hyn.
2. Rheolau a thelerau'r drwydded
2.1 Mae'r drwydded yn cynnwys:
2.2 Nid yw'r drwydded yn cynnwys:
- gwneud copïau o ddeunydd i ddibenion dysgu a/neu addysgol yn unig;
- delweddau didfap 10 x 200 cm² ar gyfer safwe ysgol neu goleg; a
- defnyddio data map digidol i ddibenion dysgu a/neu addysgol yn unig.
2.3 Mae'r gweithgareddau a nodwyd yn 2.2 wedi'u cynnwys mewn rheolau a thelerau ar wahân. Cysylltwch â'r Ordnance Survey Copyright Licensing am ragor o wybodaeth.
- copïau a wneir i ddibenion eraill heblaw dysgu, er enghraifft cynnwys map mewn llyfryn neu brosbectws ysgol;
- unrhyw waith y bwriedir ei werthu neu'i ddosbarthu i'r cyhoedd neu i unrhyw sefydliad arall allanol;
- trosglwyddo deunydd ar gyfryngau cyfrifiadurol i ddibenion eraill; neu
- digideiddio neu sganio mapiau.
Ordnance Survey
Copyright Licensing
Ordnance Survey
Romsey Road
Southampton
United Kingdom
SO16 4GU
Ffôn: 023 82 792913
Ffacs: 023 80 792535

