Benthyciadau Rhyng-lyfrgellol
Os nad yw’r deunydd rydych chi ei angen yn y Ganolfan Adnoddau Dysgu, gallwch chi wneud cais am fenthyciad rhyng-lyfrgellol (ILL). Mae hyn yn ein galluogi ni i ofyn am y deunydd rydych chi ei angen oddi wrth lyfrgell arall. Cofiwch wirio ein catalog cyn archebu unrhyw ILL.
- Ysgol Gwyddor Iechyd Benthyciadau Rhyng-lyfrgellol (Prifysgol Abertawe)
Ceisiadau am lyfrau
Cais am fenthyciad rhyng-lyfrgellol - llyfrau
- Llwythwch y ffurflen uchod lawr. Cwblhewch bob manylyn angenrheidiol, argraffwch y ffurflen.
- Gofynnwch i’ch tiwtor gymeradwyo ac arwyddo’r ffurflen.
- Dylai’ch tiwtor anfon y ffurflen at y Gyfadran i’w chymeradwyo.
- Campws Caerfyrddin: Bydd y Gyfadran yn anfon y ffurflen at staff y CAD a fydd yn prosesu’r cais.
Campws Llambed: Cysylltwch â’r Llyfrgell yn Llambed am wybodaeth. - Byddwn ni’n rhoi gwybod ichi pan fydd y llyfr wedi cyrraedd.
- Casglwch y llyfr o Fan Gwybodaeth y Llyfrgell gan nodi’r dyddiad dychwelyd ar y label tu fewn i’r clawr*.
- Dychwelwch y llyfr i Fan Gwybodaeth y Llyfrgell ar neu cyn y dyddiad dychwelyd.
- Campws Caerfyrddin: Er mwyn adnewyddu ILL bydd angen cymeradwyaeth o’r Gyfadran a’r benthyciwr a gall gymryd hyd at 48 awr i staff sicrhau hyn.
Campws Llambed: Cysylltwch â’r Llyfrgell yn Llambed am wybodaeth adnewyddu. - Sylwer bod rhai eitemau yn cael eu cyflenwi ar y sail eu bod ar gael dim ond i ymgynghori â nhw yn y Llyfrgell.
*Sylwer: os bydd myfyrwyr o bell yn gofyn i'r eitem gael ei hanfon i'w cyfeiriad cartref, caiff yr eitem ei hanfon i'r cyfeiriad a nodwyd ar eu ffurflen.
Ceisiadau am erthyglau mewn cylchgronau
Sylwer er mwyn cydymffurfio â deddf hawlfraint gallwch ofyn am ddim ond un erthygl o bob rhifyn o gylchgrawn.
Cais am fenthyciad rhyng-lyfrgellol - llungopi
- Llwythwch y ffurflen uchod lawr. Cwblhewch bob manylyn angenrheidiol, argraffwch y ffurflen ac arwyddwch y datganiad hawlfraint.
- Gofynnwch i’ch tiwtor gymeradwyo ac arwyddo’r ffurflen.
- Dylai’ch tiwtor anfon y ffurflen at y Gyfadran i’w chymeradwyo.
- Bydd y Gyfadran yn anfon y ffurflen at staff y CAD a fydd yn prosesu’r cais.
- Anfonir copi o’r erthygl atoch yn y cyfeiriad ar eich ffurflen.

