Benthyciadau Rhyng-lyfrgellol

Ysgol Gwyddor Iechyd (Prifysgol Abertawe)

Os nad yw’r deunydd rydych chi ei angen yn y Ganolfan Adnoddau Dysgu (CAD) neu un o lyfrgelloedd Prifysgol Cymru Abertawe, gallwch chi wneud cais am fenthyciad rhyng-lyfrgellol (ILL).

Gallwch chi ddefnyddio un ai Gwasanaeth Benthyciadau Rhyng-lyfrgellol yn y Ganolfan Adnoddau Dysgu (Campws Caerfyrddin) neu Wasanaeth Benthyciadau Rhyng-lyfrgellol Prifysgol Abertawe ar gampws Singleton neu Dreforys. Sylwer os gwnewch gais am lyfr, bydd yn cael ei gyflenwi o’r safle sy’n derbyn y cais.

Cofiwch wirio’r ddau gatalog isod cyn archebu unrhyw ILL:

  • Catalog (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant)
  • Voyager (Prifysgol Abertawe)