Gwasanaethau i Fyfyrwyr Dysgu o Bell

Mae’r Ganolfan Adnoddau Dysgu’n cynnig ystod eang o wasanaethau a chymorth i ddysgwyr o bell.

Mae gan bob myfyriwr dysgu o bell hawl i dderbyn: 

  • Cerdyn adnabod (sydd hefyd yn gweithredu fel cerdyn Llyfrgell)  a chyfeiriad e-bost Prifysgol
  • Cyfrif Athens i gael mynediad i gasgliad y CAD o adnoddau electronig
  • Cerdyn SCONUL i hwyluso mynediad i lyfrgelloedd prifysgolion eraill dan gynllun mynediad SCONUL Access (i fyfyrwyr o’r DU yn unig)

Yn ogystal, rydym yn darparu’r gwasanaethau canlynol i ddysgwyr o bell:

  • Benthyciadau drwy’r post
  • Llungopïau ac erthyglau wedi’u sganio
  • Benthyciadau rhyng-lyfrgellol (yn amodol ar dderbyn awdurdodiad perthnasol)
  • Cymorth gyda chwilio llenyddiaeth
  • Cymorth wrth ddefnyddio deunyddiau llyfrgell
  • Cymorth lle bo hynny’n briodol gyda llyfryddiaethau, dyfyniadau, olrhain deunydd perthnasol i’w astudio, a llythrennedd gwybodaeth
  • Cymorth gan aelodau o dîm CAD sydd â phrofiad o ddelio â’r problemau sy’n codi wrth astudio ymhell o’r campws
  • Ymatebion cyflym i bob ymholiad o bell, lle bo hynny’n bosibl
  • Gwasanaeth wedi’i deilwra i’ch anghenion dysgu unigol

Hysbysiadau Cwrteisi

O hydref 2011 ymlaen, ni fyddwn yn anfon hysbysiadau cwrteisi at fyfyrwyr a staff sy’n benthyca adnoddau o Gampws Llambed.  Daw hyn yn sgil y newid yn ddiweddar o fenthyciadau arferol cyfnod penodol i gyfnod treigl o 8-wythnos, gan sicrhau bod cwsmeriaid ar y naill gampws a’r llall yn cael yr un lefel o wasanaeth. I gael manylion y cyfnodau benthyca ewch i’r wefan:
http://www.tsd.ac.uk/cy/cad/benthycaadnoddau/benthyciadau/
a bydd y system Voyager yn eich galluogi i wirio’r dyddiad dychwelyd ar gyfer unrhyw adnoddau a fenthycwyd o Lyfrgell Campws Llambed ar eich cyfrif:
http://cat.lamp.ac.uk/cgi-bin/Pwebrecon.cgi?DB=local&PAGE=pbLogon

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

Cysylltu

E-bost: allgymorth@ydds.ac.uk

Staff

Llyfrgellydd Gwasanaethau Allgymorth

Kathy Miles
E-bost: k.miles@ydrindoddewisant.ac.uk
Ffôn: 01570 424797