Archebu eitemau i'r CAD

Archebu adnoddau i'r Llyfrgell

Mae croeso i staff academaidd archebu adnoddau i stoc y Llyfrgell ar y naill gampws neu'r llall. Neilltuir cyllideb flynyddol i bob Ysgol brynu adnoddau, a rhaid i ddeiliad cyllideb yr Ysgol gymeradwyo pob archeb cyn ei hanfon i'r CAD.

Sut i archebu

Defnyddiwch y ffurflen:
Ffurflen Archebu Eitemau i'r CAD 

Er mwyn i'r ffurflen weithio'n iawn, a wnewch chi ei llwytho lawr o'r wefan a'i hagor ym Microsoft Excel.

Anfon y ffurflen i'r Llyfrgell.

Cwblhau'r ffurflen

  • Archebwyd gan - teipiwch eich enw yma
  • Dyddiad - llenwir hwn yn awtomatig
  • Campws - sef y campws lle rydych chi am i ni gadw'r adnoddau, h.y. Llyfrgell Caerfyrddin neu Lyfrgell Llambed. Gellir cael mynediad i e-lyfrau ar y ddau gampws ac oddi ar y campws drwy gyfrif Athens
  • E-lyfrau - byddwn yn prynu llyfrau electronig (e-lyfrau) yn awtomatig yn lle copïau argraffedig os ydynt ar gael. Os oes angen copïau argraffedig yn unig arnoch, neu gopïau argraffedig ac e-lyfrau, a wnewch chi newid y gwymplen. Sylwer bod rhai llyfrau ar gael yn argraffedig yn unig.
  • Llofnod deiliad y cyllid - mae angen llofnod y deiliad cyllideb cyn gallu prosesu'ch archeb. Gallwn dderbyn llofnod electronig dim ond os anfonir y ffurflen i'r CAD o gyfeiriad e-bost prifysgol unigol y deiliad cyllid.
  • Modwl - teipiwch god y modwl a fydd yn defnyddio pob adnodd, os gwyddoch hynny. Gallwch nodi cod gwahanol i bob adnodd a archebwch.
  • Awdur, Teitl, ISBN - nodwch gymaint o wybodaeth â phosibl am yr adnodd rydych am ei archebu. Gallwn archebu adnoddau heb ISBN, er gallai hyn achosi oedi wrth brosesu'ch archeb. I DVDs neu arteffactau addysgu heb ISBN, gadewch hwn yn wag. I gylchgronau, teipiwch yr ISSN yn y blwch i'r ISBN.
  • Arg. -Argraffiad - teipiwch argraffiad y llyfr os ydych yn archebu ail argraffiad neu argraffiad diweddarach. Fel arfer bydd y CAD yn archebu argraffiad diweddaraf llyfr.
  • Bl. Cyh. - blwyddyn cyhoeddi, os gwyddoch
  • Cyh. - Cyhoeddwr - teipiwch enw'r cyhoeddwr, os gwyddoch Mae hwn yn arbennig o ddefnyddiol yn enwedig os na wyddoch yr ISBN.
  • Pris - os teipiwch bris, bydd y ffurflen yn cyfrifo cost gyfanswm eich archeb yn awtomatig. Defnyddiwch y Pris Adwerthu Argymelledig (RRP) ac nid y pris â disgownt o Amazon neu gyflenwyr eraill.
  • Nifer o gopïau, Statws benthyca - teipiwch nifer y copïau mae eu hangen arnoch i bob statws benthyca fel a ganlyn:
    Heb Fand: bydd y rhain ar gael i'r holl fyfyrwyr a staff am y cyfnod benthyca safonol.
    Band Coch: bydd y rhain ar gael i'r holl fyfyrwyr a staff i'w benthyca am un wythnos ar y tro yn unig.
    Band Glas: bydd y rhain ar gael i'w defnyddio yn y CAD yn unig, neu'u rhoi ar fenthyg am gyfnodau byr iawn e.e. 3 awr ar y tro.
    Band Melyn: bydd y rhain ar gael i'r holl fyfyrwyr a staff i'w benthyca am 1 ddiwrnod ac ni ellir eu hadnewyddu.
    Dim ond i bob statws benthyca y bydd angen i chi deipio nifer y copïau sydd eu hangen arnoch.
    Bydd y ffurflen yn cyfrifo nifer cyfanswm y copïau sydd eu hangen arnoch a'r gost gyfanswm yn y blychau gwyrdd.
  • Ydy'r eitem hon yn y CAD eisoes? - bydd staff y CAD yn gwirio a ydy pob adnodd yn y CAD eisoes, cyn gosod eich archeb, er mwyn osgoi copïau diangen. Os ydy adnodd sydd ei angen arnoch yn y CAD eisoes ac rydych am archebu copïau ychwanegol, newidiwch y gwymplen o "Nac ydy" i "Ydy - rwyf eisiau copïau ychwanegol". Os nad ydych yn sicr, cliciwch ar y dolenni wrth ochr y blwch i chwilio catalog y CAD.
    Os gwyddoch fod pob adnodd ar eich ffurflen yn y CAD eisoes, gallwch dicio'r blwch ar frig y dudalen "Os ydy'r eitemau mewn stoc, oes eisiau archebu copïau argraffedig ychwanegol arnoch?"

Derbyn y Nwyddau

Caniatewch 3 - 4 wythnos ar ôl cyflwyno'ch archeb i'r adnoddau gael eu gosod ar silffoedd y Llyfrgell. Mae hyn yn rhoi amser i ni ychwanegu'ch archeb i gatalog y CAD ac i brosesu'r adnoddau yn barod i'w benthyca. Mae'r CAD yn defnyddio cyflenwyr sylweddol sy'n rhoi disgownt a gwasanaethau prosesu i lyfrgelloedd inni er mwyn sicrhau y gallwn osod eich adnoddau ar y silffoedd yn yr amser byrraf posibl.

Mae'n bosibl y bydd archebion ar gyfer adnoddau arbenigol, megis arteffactau addysgu neu lyfrau sydd allan o brint, ac archebion ar adegau prysur (Awst i Hydref a Mehefin i Orffennaf) yn cymryd mwy o amser i'w prosesu. Os ydy'ch archeb yn un frys, cysylltwch â ni a gwnawn ein gorau glas i flaenoriaethu'r archeb.