Casglu Aseiniadau

Campws Caerfyrddin

Myfyrwyr yn Y CwadBydd myfyrwyr yn cyflwyno copïau caled o aseiniadau i’r Cwad i’w casglu gan staff academaidd. Er mwyn gwneud y broses hon mor effeithlon â phosibl ichi a'ch myfyrwyr, rhowch wybod inni am unrhyw ddyddiadau terfyn aseiniadau o leiaf 4 wythnos ymlaen llaw. Bydd hyn yn ein galluogi i ddarparu staff digonol ar ddyddiadau terfyn. Ar ddiwrnodau pan nad oes cofnod gennym o unrhyw ddyddiadau terfyn aseiniadau, bydd staff wrth ddesg y CAD yn Y Cwad am lai o oriau.
 
Sylwer ein bod yn gofyn i fyfyrwyr israddedig gyflwyno’u haseiniadau erbyn 3pm ar ddiwrnod y dyddiad terfynol. Mae hyn yn ein galluogi i brosesu a ffeilio pob aseiniad cyn diwedd y diwrnod gwaith.
 
Bydd staff y CAD yn rhoi gwybod ichi’n wythnosol am unrhyw aseiniadau sydd wedi cyrraedd ichi. Os na chesglir aseiniadau ar ôl 4 wythnos, byddwn yn rhoi gwybod i Swyddfa’r Gyfadran ac yn gofyn iddynt gael eu casglu.

Rhoi dyddiad terfynol ar gyfer aseiniad - Campws Caerfyrddin

I roi gwybod i CAD am ddyddiad cau ar gyfer aseiniad llenwch bob maes a chyflwyno’r ffurflen isod.

Tiwtor:
Rhif y Modwl:
Dyddiad Terfynol:
Nifer o fyfyrwyr: