Defnyddio Llyfrgelloedd Eraill
Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr a staff y Brifysgol yn gallu defnyddio detholiad o lyfrgelloedd eraill ar draws y Deyrnas Gyfunol drwy un o’r cynlluniau canlynol. Am fanylion pellach, Cysylltu â ni.
Coleg Sir Gar
Gall myfyrwyr y Radd Sylfaen mewn Gwyddor Anifeiliaid a’r radd mewn Ysgol y Celfyddydau Creadigol sy’n astudio yng Ngholeg Sir Gâr ddefnyddio’r adnoddau yng Nghanolfan Adnoddau Dysgu (CAD) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant o fis Ionawr 2011. Mae croeso i fyfyrwyr eraill o Goleg Sir Gâr ddefnyddio’r CAD drwy gynllun partneriaeth Llyfrgelloedd Ynghyd. Mae croeso i fyfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wneud cais am basport Llyfrgelloedd Ynghyd i ddefnyddio llyfrgelloedd Coleg Sir Gâr. Gofynnwch wrth y Man Gwybodaeth am wybodaeth bellach.
Llyfrgelloedd Ynghyd - Pasbort
Gall myfyrwyr a staff ddefnyddio llyfrgelloedd cyhoeddus a llawer o lyfrgelloedd prifysgolion a cholegau eraill yn ne Cymru a'r Canolbarth trwy’r cynllun Llyfrgelloedd Ynghyd – Pasbort. Holwch yn y Man Gwybodaeth am wybodaeth bellach ac er mwyn casglu Pasbort.
SCONUL Access
Mae SCONUL Access yn wasanaeth cilyddol a gefnogir gan y rhan fwyaf o lyfrgelloedd addysg uwch yn y DU ac Iwerddon. SCONUL Access yn darparu breintiau benthyg ar gyfer y rhan fwyaf o’r canlynol:
- staff academaidd ar gytundebau agored neu dymor penodedig
- myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a gofrestrir ar gyfer PhD, MPhil neu gymhwyster tebyg
- myfyrwyr rhan amser, dysgu o bell ac ar leoliad
- myfyrwyr ôl-radd llawn amser
- myfyrwyr israddedig llawn amser sy’n manteisio ar y cytundeb cilyddol rhwng Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe ac Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Mae SCONUL Access hefyd yn darparu ar gyfer gwasanaeth cyfeiriol yn unig ar gyfer y rhan fwyaf o’r canlynol:
- myfyrwyr israddedig llawn amser
- staff ychydig o lyfrgelloedd addysg uwch nad ydynt yn cymryd rhan yn y trefniadau benthyg cilyddol
Mae aelodaeth o SCONUL Access yn agored i bob aelod llawn o SCONUL ac mae’r rhan fwyaf o lyfrgelloedd addysg uwch yn y DU ac Iwerddon a gyllidir yn gyhoeddus nawr yn aelodau. Gallwch weld y rhestr lawn o lyfrgelloedd sy’n cymryd rhan yma. Nodwch nad yw pob llyfrgell yn cynnig breintiau benthyg i bob math o ddefnyddiwr a restrir uchod. Ymgynghorwch â’r rhestr o lyfrgelloedd sy’n cymryd rhan cyn ichi deithio os gwelwch yn dda. Mae mynediad at gyfrifiaduron ar gael mewn rhai sefydliadau.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Gall unrhyw un sydd â chyfeiriad cartref yng Nghymru wneud cais ar-lein am docyn darllen i gael mynediad i gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ewch i wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru am fanylion pellach.
Y Llyfrgell Brydeinig
Gall unrhyw un wneud cais am docyn darllen i gael mynediad i ystafelloedd darllen y Llyfrgell Brydeinig. Ewch i wefan Y Llyfrgell Brydeinig am fanylion pellach.
Map - Prifysgolion Eraill (Gwefan Prifysgol Wolverhampton)

