Canolfan Ymchwil Profiad Crefyddol Alister Hardy
Am yr Ymddiriedolaeth
Elusen gofrestredig yw Ymddiriedolaeth Alister Hardy wedi’i rheoli gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr. Y bwriad yw bwrw ymlaen â’r gwaith o astudio profiadau crefyddol ac ysbrydol a gychwynnwyd gan Syr Alister Hardy FRS ym 1969.
Ceisia’r Ymddiriedolaeth fynd i’r afael ag ymchwil gwrthrychol, gan gyfleu ei chanfyddiadau i’r cyhoedd, a chynnig fforwm ar gyfer trafodaeth i’r rheini sydd â diddordeb mewn ysbrydolrwydd. Wrth geisio cyflawni’i hamcanion, mae’r Ymddiriedolaeth yn croesawu adroddiadau o brofiadau ysbrydol / crefyddol neu drosgynnol ac mae'n gwerthfawrogi pob rhodd i'w chynorthwyo gyda'i gwaith.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth archif unigryw o adroddiadau o brofiadau crefyddol sy’n cael eu cadw ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Campws Llambed.
Dyma rai o flaenoriaethau’r Ymddiriedolaeth:
- Ymchwil rhyngddisgyblaethol i ysbrydolrwydd cyfoes a phrofiadau crefyddol;
- Dod â phobl sydd â diddordeb yn yr astudiaeth hon at ei gilydd;
- Gweithio gyda sefydliadau eraill y mae eu diddordebau’n gorgyffwrdd;
- Tynnu sylw at bwysigrwydd ysbrydolrwydd ym maes addysg, gofal iechyd, busnes a meysydd eraill.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyhoeddi llyfrau a phapurau achlysurol, amlinelliadau o ymchwil a chylchlythyr rheolaidd, De Numine.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn trefnu cynadleddau a chyfarfodydd, ac mae’n cynnig MA mewn profiadau crefyddol, ar y cyd â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Campws Llambed. Mae rhagor o fanylion ar gael yma.
Noddwyr
Dyma noddwyr Ymddiriedolaeth Alister Hardy:
- Bronwen, Is-iarlles Astor
- Ei Sancteiddrwydd y Dalai Lama
- Ei Arucheledd y Cardinal Cormac Murphy-OConnor
- Yr Athro Seyyed Hossein Nasr
- Y Parch. Dr John A. Newton
- Ei Arucheledd yr Archesgob, Koken Otani
- Syr Jonathon Porritt
- Yr Arglwydd Rees-Mogg
- Y Prif Rabi yr Athro Jonathan Sacks
- Swami Chidanand Saraswati
- Y Parchedicaf Rowan Williams, Archesgob Caergaint
- Right. Revd. Wyn Evans, Bishop of St. Davids
Ymddiriedolwyr
Dyma rai o Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Alister Hardy:
- Y Parch. Ganon yr Athro Leslie Francis (cadeirydd)
- Yr Athro Paul Badham (Ysgrifennydd Anrhydeddus)
- Y Parch. yr Athro June Boyce-Tillman
- John Franklin
- Yr Athro Nicholas Goodrick-Clarke
- David Greenwood (Trysorydd ac Is-Gadeirydd)
- Dr Thomas Jansen
- Marianne Rankin
- Y Parch. Jonathan Robinson (Cadeirydd Cymdeithas Alister Hardy)
- Jane Winship
Cyfarwyddwyr
Dyma Gyfarwyddwyr Ymddiriedolaeth Alister Hardy:
- Dr Bettina Schmidt
- Dr Greg Barker
- Ms Sally Wilkinson

