Canolfan Ymchwil Profiad Crefyddol Alister Hardy
Ymchwil
Diben y Ganolfan er Ymchwilio i Brofiadau Crefyddol yw astudio profiadau ysbrydol a chrefyddol cyfoes. Mae’r ganolfan ar Gampws Llambed, ynghyd â’i harchif o adroddiadau o brofiadau ysbrydol a’i llyfrgell arbenigol.
Sefydlwyd y Ganolfan Ymchwil gan Syr Alister Hardy ym 1969 fel yr Uned Ymchwilio i Brofiadau Crefyddol yng Ngholeg Manceinion, Rhydychen. Symudodd i Lambed o’i lleoliad blaenorol yng Ngholeg San Steffan, Rhydychen ym mis Gorffennaf 2000.
Nod y Ganolfan yw astudio, mewn modd disgybledig ac mor wyddonol ag y bo modd, adroddiadau cyfoes am brofiadau crefyddol neu ysbrydol a chyhoeddi ei chanfyddiadau.
Cyhoeddir canfyddiadau’r Ganolfan mewn llyfrau, adroddiadau, papurau achlysurol ac ati. Dyma rai o’r pwysicaf: The Spiritual Nature of Man gan Syr Alister Hardy, Exploring Inner Space and Religious Experience Today gan David Hay, The Original Vision and Living the Questions gan Edward Robinson a A Sense of Presence gan Timothy Beardsworth. Mae’r rhain ar gael i’w prynu, neu i’w benthyca, gan y Ganolfan. Mae rhestr o’r llyfrau a’r papurau achlysurol, ynghyd â gwybodaeth am archebu, ar gael ar wefan Cymdeithas Alister Hardy.
Dyma rai o’r Prosiectau Ymchwil a gyflawnwyd neu a noddwyd gan y Ganolfan:
- Profiadau Crefyddol yn Rhyddhad - Dr David Hay
- Profiadau Crefyddol mewn Plentyndod - Edward Robinson
- Crefydd a Gwerthoedd Ôl-16 - Edward Robinson a Dr Michael Jackson
- Seicosis a Phrofiadau Crefyddol - Dr Michael Jackson
- Profiadau Ysbrydol/Crefyddol yn y Gymdeithas Fodern - Dr Geoffrey Ahern
- Dylanwadau Amgylcheddol ar Natur Profiadau Crefyddol - William Ord
- Perthynas Diwinyddiaeth Swyddogaethol - Dr Newton Malony
- Profiadau Crefyddol Negyddol - Dr Merete Jakobsen
Dyma rai o’r Prosiectau/Mentrau presennol:
- Astudiaeth o’r nodweddion cyffredin a’r deilliannau cyffredinol o brofiad ysbrydol/crefyddol ar draws traddodiadau crefyddol.
- Astudiaeth o ganlyniadau profiadau ysbrydol a chrefyddol.
- Rhaglenni addysgol, a rhaglen o ddarlithiau a gweithdai ar draws y DU sy’n cynyddu’r ymwybyddiaeth o ymchwil i ysbrydolrwydd a phrofiadau crefyddol.
- Trefnu Cwrs MA mewn Profiadau Crefyddol ar y cyd â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
- Mae’r Ganolfan yn croesawu adroddiadau am brofiadau ysbrydol/crefyddol (ni waeth y diffiniad a roddir i'r termau hyn gan bobl). Caiff pob adroddiad ei drin yn gyfrinachol. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y bo modd, gan gynnwys yr hyn, yn eich barn chi, a allai fod wedi arwain a/neu ‘sbarduno’r’ profiad(au), pryd (gan gynnwys dyddiad os oes modd) a lle y cawsoch y profiad(au) a sut y gallai fod wedi effeithio arnoch ar ôl hynny. Cofiwch hefyd gynnwys ychydig o fanylion personol, e.e. am eich oedran ar y pryd, eich magwraeth grefyddol a’ch crefydd (os oes gennych un) ac unrhyw beth arall a allai fod yn berthnasol yn eich barn chi.

