Canolfan Ymchwil Profiad Crefyddol Alister Hardy
Ymchwil - Adroddiad ar Brosiect Tsieina
Yn ystod y pedair blynedd diwethaf mae prif ymchwil y Ganolfan wedi canolbwyntio ar brosiect pwysig sy’n ymchwilio i brofiadau crefyddol yn Tsieina.
Gyda chymorth yr Athrawon Keith Ward a John Hedley-Brooke o Ganolfan Ian Ramsey er Gwyddoniaeth a Chrefydd yn Rhydychen, sicrhaodd yr Athrawon Xinzhong Yao a Paul Badham grant sylweddol gan Sefydliad John Templeton a wnaeth yr ymchwil yn bosibl. Gan gydweithio ag ysgolheigion o saith o brifysgolion Tsieina ynghyd â chefnogaeth 110 o gyfwelwyr, casglasant wybodaeth o ddeg safle cynrychiadol ar hyd a lled Tsieina. Llenwyd 3196 o holiaduron hir. Rhoddodd y rhain doreth o ddata ar gred ac arferion crefyddol yn Tsieina. Enynnodd yr ymchwil gryn ddiddordeb yn Tsieina, a gwahoddwyd yr Athro Yao i gyflwyno canfyddiadau’r ymchwil i brifysgolion ar draws Tsieina ac i Ysgol Ganolog Plaid Gomiwnyddol Tsieina.
Ymhlith rhai o’r canfyddiadau mwyaf diddorol oedd mai dim ond 8.7% o’r Tsieineaid sy’n dweud eu bod yn “grefyddol”, caiff 28.6% eu cysuro neu’u nerthu trwy weddi ac addoliad ac mae 56.7% wedi profi dylanwad “rhyw fath o bŵer na all pobl ei reoli na’i esbonio'n glir”. Cysylltant y pŵer hwn â bod neu rym crefyddol. Cred 44% fod bywyd a marwolaeth yn dibynnu ar Ewyllys y Nef a chytuna 41% â’r datganiad bod "rhaid i ni wneud ein gorau mewn bywyd i ogoneddu Duw/Arglwydd y Nef/Bwdha/Hynafiaid". Dangosodd yr arolwg fod yr achosion o bobl yn cael eu trwytho’n ideolegol mewn anffyddiaeth yn y gweithle wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf a dim ond 0.7% o gredinwyr crefyddol a ddywedodd eu bod wedi teimlo o dan bwysau oherwydd eu credoau crefyddol. Mae anffyddwyr pybyr yn gwrthod (46.6% o blaid o'u cymharu â 33.4% yn erbyn) y syniad mai "Crefydd yw opiwm y bobl”, ac er bod 47.5% o anffyddwyr pybyr o’r farn mai "ffwlbri twyllodrus yw crefydd", anghytuna 34% a chred 31.3% fod "gan grefydd wirionedd dwfn". Dweud rhy ychydig am eu hymrwymiad a wna credinwyr crefyddol. Enghraifft o hyn yw mai dim ond 4.4% sy’n honni bod yn Fwdhaidd ac eto fod 27.4 % yn gweddïo ar Fwdha neu bodhisattva a bod 18.2% yn cydnabod dylanwad Bwdha neu bodhisattva yn eu bywydau. Dim ond 2.8% o’r boblogaeth sy’n arddel Cristnogaeth yn ffurfiol, ac eto ceisia 11% ddillyn ffordd Duw Cristnogaeth.
Mae'r prosiect hefyd wedi denu sylw yn y DU. Bydd yr aelodau’n cofio i’n dau Gyfarwyddwr roi adroddiadau ar hynt y gwaith yn ein Diwrnodau Agored yn Rhydychen yn ogystal ag yn ystod cyrsiau preswyl MA yn Llambed a’n cynadleddau blynyddol yn ogystal ag annerch mewn amrywiaeth o gynadleddau eraill a rhoi cyfweliadau radio. Mae ysgolheigion o fri yn Nhwrci, Siapan, yr India, Rwsia, Brasil, UDA a Taiwan wedi gofyn am ganiatâd i addasu'r fethodoleg a'r holiadur i'w gwledydd eu hunain ac i fynd ati i gynnal astudiaeth gymharol gyda'r Ganolfan. O ganlyniad i hyn, canolbwyntiodd cynhadledd 2007 y Gymdeithas Brydeinig er Astudio Crefyddau ar Brofiadau crefyddol mewn cyd-destunau byd-eang ac roeddem yn falch dros ben i’n ein cydweithwyr ddod o Tsieina yn ogystal ag ysgolheigion o wledydd eraill a oedd â diddordeb i Gaeredin i gyflwyno papurau.
Cofnodir canfyddiadau cychwynnol yr ymchwil mewn llyfr 274 tudalen gan Wasg Prifysgol Cymru o’r enw Religious Experience in Contemporary China (2007)yn ogystal ag erthyglau yn y Cyfnodolyn Modern Believing (Ebrill 2006 ac Ionawr 2008), y Journal of Contemporary Religion (Gorffennaf 2007) a’r Cyfnodolyn Tsieineaidd Crefyddau’r Byd (Shijie Zongjiao, Rhif 4, 2007). Dyfynnodd Dr Wendy Dossett rai o’r canfyddiadau yn ei Chanllaw i’r Lefel A newydd mewn Profiad Crefyddol, a gobeithia Marianne Rankin ddefnyddio’r canfyddiadau yn ei gwerslyfr ar brofiadau crefyddol a fydd yn ymddangos maes o law. Mae cyhoeddiadau pellach ar y gweill yn Tsieinëeg a Saesneg.
Yn sgil llwyddiant prosiect Tsieina mae’r Ganolfan er Ymchwilio i Brofiadau Crefyddol wrthi’n gweithio gyda Chanolfan Ian Ramsey i geisio arian ar gyfer prosiect pellach i gymharu profiadau crefyddol ar draws diwylliannau a thraddodiadau. Mae ein cydweithwyr yn Nhwrci, Siapan, yr India, Rwsia, Brasil ac UDA wedi addo’u cefnogaeth ond ni chawn wybod am nifer o fisoedd a all y Ganolfan sicrhau’r arian sydd ei angen ar gyfer y prosiect olynol enfawr hwn.

