Y Myfyriwr Ymchwil
Yn cyflwyno "Y Myfyriwr Ymchwil", Cylchgrawn Ymchwil Israddedigion
- Y Myfyriwr Ymchwil - Cylchgrawn Ymchwil Israddedigion [PDF, 1.37Mb]
Croeso i rifyn cyntaf Y Myfyriwr Ymchwil. Ddeuddeng mis yn ôl, penderfynwyd creu platfform er mwyn arddangos yr hyn yr oedd israddedigion Y Drindod Dewi Sant wedi ei gyflawni ym maes ymchwil; Y Myfyriwr Ymchwil yw’r canlyniad.
Fel y dywedais, prif nod Y Cylchgrawn yw arddangos yr hyn y mae pob myfyriwr ar draws y Brifysgol wedi'i gyflawni ym maes ymchwil, ond mae iddo hefyd ddyheadau ehangach. Mae myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn griw amrywiol sy’n dod o bob cwr o'r byd ac o bob math o gefndiroedd er mwyn ymroi i’r gwaith o astudio ystod eang o ddisgyblaethau; cael eu hysbrydoli astudio maes o ddiddordeb dwfn neu ailhyfforddi ar gyfer gyrfa newydd. Mae cyflawni gwaith ymchwil yn rhan o'r daith hon, a hoffem i'r Cylchgrawn fod yn darged a fydd yn ysbrydoli'r rheini sydd newydd ddechrau yn y Brifysgol.
Ym mhob cam o ddatblygu’r Cylchgrawn gydol y flwyddyn roedd myfyrwyr yn rhan o’r gwaith trwy eu haelodaeth o’r bwrdd golygyddol, o’r gwaith o gyflwyno erthyglau i’w dyluniad; prawf ddarllen y gosodiad a dewis y teitl. Mae wedi bod yn brofiad diddorol i bawb.
Hwn yw’r rhifyn cyntaf erioed o gylchgrawn i fyfyrwyr a luniwyd ac a gyhoeddwyd gan Y Drindod Dewi Sant. Felly rydym yn awyddus i gael eich adborth, a wnewch chi gysylltu os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau; mae'r manylion cyswllt ar gyfer y Bwrdd Golygyddol ar gefn y Cylchgrawn.
Gobeithio y cewch flas ar y cylchgrawn ac y cewch rywbeth newydd a diddorol ynddo.
Y Bwrdd Golygyddol
Cysylltu â ni
E-bost: ymyfyriwrymchwil@ydds.ac.uk
Y Bwrdd Golygyddol
Jane Booth, Y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant
Jemma Bezant, Cyfadran y Dyniaethau
Kathryn James, Swyddog Cyfoethogi Dysgu
Mark Kelley, Cyfadran y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol
Roger Maidment, Cyfadran y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol
Sarah Goodridge, Y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant
Selina Ali, Cyfadran y Dyniaethau
Sue Davies, Y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant
Thomas Jansen, Cyfadran y Dyniaethau

