Canolfan Chwaraeon

Cyfleusterau

Neuadd Chwaraeon

Neuadd chwaraeon amlbwrpas ddeuol

Mae cyfleusterau’r neuadd yn cynnwys:

  • 4 Cwrt Badminton
  • 1 Cwrt Pêl-foli
  • Cwrt Pêl-fasged
  • Llain 5-bob-ochr
  • Cwrt Tenis dan do
  • Cyrtiau Pêl-rwyd
  • Byrddau Tenis Bwrdd
  • 4 Cwrt Tenis Byr
  • Wal Ddringo dan do

Ystafell Ffitrwydd

Canolfan Chwaraeon Yn yr Ystafell Ffitrwydd mae ystod eang o beiriannau cardiofasgwlaidd a gwrthiant Technogym yn ogystal â phwysau rhydd, ac mae’n darparu cyfleusterau rhagorol ar gyfer ymarfer. Mae llawer o gymwysterau gan ein staff a phrofiad o ddarparu cefnogaeth a chyngor i ddefnyddwyr, beth bynnag bo’u rheswm am ymarfer. Er diogelwch ac er mwyn galluogi i bob defnyddiwr allu gwneud y mwyaf o’r Ystafell Ffitrwydd, rhaid cael eich anwytho’n llawn cyn defnyddio’r Ystafell Ffitrwydd.

Anwytho

Rhoddir anwythiad i bob aelod newydd ar sut i raglennu peiriannau a gosod pwysau, a rhoddir amlinelliad o fesurau diogelwch ar gyfer hyfforddi. Rhoddir rhaglen hyfforddi i bob aelod newydd er mwyn ei osod ar ben y ffordd. Rhaid trefnu pob anwythiad trwy alw Derbynfa’r Ganolfan Chwaraeon ar 01267 676942.

Profi Ffitrwydd

Mae hyn yn cynnwys profi’ch ffitrwydd ac iechyd er mwyn cael canlyniadau y gellir eu defnyddio ar gyfer cynllunio rhaglenni ffitrwydd a mesur gwellhad. Mae profi ffitrwydd ar gael mewn dau becyn.

  1. mesuriad sylfaenol o newidynnau iechyd: £7.50
  2. mesuriad cynhwysfawr o newidynnau iechyd: £15

Sylwer rhaid bod yn aelod o’r Ganolfan er mwyn defnyddio’r Ystafell Ffitrwydd.

Offer Cardio:

  • 5 Peiriant Rhedeg Excite
  • 3 Beic Unionsyth Excite
  • 3 Beic Gorweddol Excite
  • 3 Pheiriant Trawsymarfer Excite
  • 3 Pheiriant Rhwyfo Concept II

Peiriannau Gwrthiant:

  • Canolfan Chwaraeon Gwasg-goesau
  • Gorestyn-goesau
  • Plŷg-goesau
  • Gwasg-frest
  • Gwasg-sgwyddau
  • Peiriant Tynnu Lawr Ochrol
  • Ceblau Rhydd
  • Peiriant Abdomen
  • Gorestyn Cefn Isaf
  • Peiriant Smith
  • Gwasg-fainc
  • Detholiad o ddymbelau o 1kg - 30kg
  • Bar Olympaidd
  • 205 kg o Ddisgiau Pwyso

Mae offer eraill yn yr Ystafell Ffitrwydd yn cynnwys - Peli Ffitrwydd, Bandiau Gwrthiant, Peli Ymarfer, Bwrdd Siglo, Rhaffau Sgipio, ac ati.

Llogi Offer

Mae nifer o eitemau o offer chwaraeon gan y Ganolfan Chwaraeon i’w llogi os bydd eu hangen gan gwsmer. Fodd bynnag, disgwylir i gwsmeriaid ddod â’u hoffer eu hun.

Gofynnir i’r cwsmer adael un ai’i gerdyn aelodaeth neu ryw ddull adnabod fel blaendal am yr eitemau sydd eu hangen. £1.50 yr awr yw’r tâl am y gwasanaeth hwn er mwyn i’r gweithgaredd perthnasol fynd yn ei flaen. Rhaid talu ar gyfer unrhyw beth a dorrir neu cedwir cardiau aelodaeth nes derbyn taliad.