Canolfan Chwaraeon
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r Ganolfan Chwaraeon ar agor i holl fyfyrwyr a staff Coleg Prifysgol y Drindod ac i’r cyhoedd yn gyffredinol. Rhaid i unigolion fod dros 16 oed i gael mynediad i’r Ystafell Ffitrwydd.
Partïon
Nod y pecyn partïon yw cael gwared â’r drafferth o drefnu parti pen-blwydd neu unrhyw ddathliad arall. Cynigir nifer o weithgareddau sy’n rhoi cyfle i ddefnyddwyr gael hwyl dan arolygiaeth wyliadwrus. Mae’r chwaraeon sydd ar gael yn cynnwys pêldroed, pêl-rwyd, pêl-fasged, pêl-foli neu mae nifer o chwaraeon racedi ar gael. Os bydd angen, gellir paratoi lluniaeth wedyn yn y Ganolfan Halliwell er mwyn cwblhau’r dathlu.
Dyddiau i’r Teulu
Ar benwythnosau penodedig drwy’r flwyddyn, dewch i brofi nifer o chwaraeon gwahanol. Hwyl i’r teulu cyfan. Am fwy o wybodaeth a dyddiad y dydd penodedig nesaf, cysylltwch â Derbynfa’r Ganolfan Chwaraeon.
Gwersylloedd Haf i Bobl Ifanc
Yn ystod gwyliau ysgol y Pasg a’r Haf bydd y Ganolfan Chwaraeon ar y cyd â’r Ysgol Chwaraeon yn rhedeg gwersylloedd haf ar gyfer y gymuned leol. Bydd y gwersylloedd yn gwahodd pobl ifanc 7 i 14 oed i gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon, a gweithgareddau celf a hwyl. Bydd y bobl ifanc yn cael eu harolygu trwy gydol y sesiynau gan staff cymwys, sy’n anelu at wneud y sesiynau’n hwyl ac yn llawn gwybodaeth. Bydd y gwersylloedd yn darparu cyfle i’r bobl ifanc brofi chwaraeon /gweithgaredd newydd neu i wella hoff weithgaredd. Aelodau ag Anghenion Ychwanegol
Mae’r Ganolfan Chwaraeon yn croesawu pob ymholiad oddi wrth aelodau posibl a byddwn yn gwneud pob ‘addasiad rhesymol’ er mwyn ymgymhwyso ar gyfer defnyddwyr. Rydym yn credu bod y rhan fwyaf o ardaloedd, cyfleusterau ac offer yn y Ganolfan yn hygyrch i bawb.
Gofal Plant
Mae Meithrinfa Ddydd (Y Gamfa Wen) ychydig gannoedd o lathenni oddi wrth y Ganolfan Chwaraeon. Dyma gyfle delfrydol i hyfforddi tra bod rhywun yn gofalu am y plantos. Bydd angen cofrestru cychwynnol yn y Feithrinfa, wedyn yn dibynnu ar y lle sydd ar gael. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â 01267 676645.
Dim Smygu
Mae polisi dim smygu gan y Brifysgol. Mae’r Ganolfan Chwaraeon yn ardal ddim smygu.
Pethau Gwerthfawr
Peidiwch adael pethau gwerthfawr yn yr ystafelloedd newid. Mae loceri ar gael ar gyfer dillad a phethau gwerthfawr bach megis ffonau symudol a waledi. (Mae tâl o £1 sy’n cael ei ddychwelyd.) Rhaid gwacáu pob locer ar ddiwedd y noson. Ni all y Brifysgol fod yn gyfrifol am ddiogelwch unrhyw eiddo a adewir yn y Ganolfan.
Esgidiau a Dillad
Rhaid i gwsmeriaid wisgo esgidiau nad yw’n gadael olion, sy’n lân ac yn briodol ar gyfer y gweithgaredd maent yn cymryd rhan ynddo. Gofynnir i ddefnyddwyr beidio gwisgo’r un esgidiau ag y maent wedi’u gwisgo tu allan. Bydd staff y Ganolfan Chwaraeon yn atal defnyddwyr rhag cymryd rhan mewn gweithgaredd os byddant yn gwisgo esgidiau a allai faeddu neu adael olion ar y llawr. Cynghorir cwsmeriaid i wisgo dillad addas ar gyfer y gweithgaredd.

