Canolfan y Cyfryngau

Offer

Canolfan Hyfforddiant Isdeitlo Isis

Ym 1989, datblygwyd cwrs isdeitlo yn Llambed, gyda chymorth S4C a Trosol, asiantaeth gyfieithu. Gwnaethpwyd hyn gyda’r bwriad i hyfforddi isdeitlwyr proffesiynol a hyrwyddo sgiliau yn y maes hwn.

Yn ddiweddar mae’r Brifysgol wedi prynu meddalwedd isdeitlo ddigidol newydd o’r radd flaenaf (Isis) oddi wrth Starfish Technologies. Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Starfish wedi penodi’r Brifysgol fel canolfan hyfforddi awdurdodedig ar gyfer Isis, a fydd yn galluogi i Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan fod ar y blaen yn dechnolegol ym maes isdeitlo byw, caeedig.

Bydd datblygiadau’r dyfodol yn cynnwys isdeitlo byw (adnabod llais), isdeitlo ar gyfer awduro DVDs a Sain Ddisgrifiad.

Ar hyn o bryd cydnabyddir yr Uned yn Llambed fel un o brif ganolfannau isdeitlo’r DU. Mae’r cyrsiau’n darparu hyfforddiant isdeitlo rhaglenni teledu o Gymraeg i Saesneg i fyfyrwyr dwyieithog, Saesneg i Saesneg i fyfyrwyr ffilm a’r cyfryngau, a Chymraeg i Gymraeg i fyfyrwyr Adran y Gymraeg. Hefyd mae Canolfan Addysg Barhaus y Brifysgol yn cynnig cyrsiau dwys ar gyfieithu i’r sgrin i fyfyrwyr dwyieithog o wledydd eraill Ewrop.

Asesir holl waith cwrs Adran y Gymraeg yn allanol gan S4C, gan arwain at Gymhwyster Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a S4C mewn Isdeitlo (Teletestun).  

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Geraint Davies – e-bost: geraint@ydrindoddewisant.ac.uk

Dolenni perthynol: www.starfishtechnologies.com