Canolfan y Cyfryngau
Offer
Fideo-gynadledda
Drwy gyswllt teledu byw, mae fideo-gynadledda’n caniatáu ichi gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb rhwng grwpiau o bobl mewn dau neu fwy o leoliadau. Gall pawb weld a chlywed beth sy’n digwydd, bron fel petaent yn yr un ystafell.
Mae dwy stiwdio fideo-gynadledda o’r radd flaenaf yn Llambed. Cafodd y rhain eu creu ym mis Gorffennaf 2001 ac maent yn rhan o Rwydwaith Fideo Cymru (RhFC).
Sut mae’n gweithio?
Bydd y prif flwch cynadledda’n dangos lluniau o’r canolfannau eraill ar sgriniau mawr lliw. Mae camerâu yn yr ystafell yn tynnu lluniau o’r bobl yn y gynhadledd. Trosglwyddir lluniau a sain gyda'i gilydd i sgriniau'r ganolfan arall /canolfannau eraill.
Mae offer y stiwdios yn cynnwys:
- Teclyn rheoli offer y stiwdio
- CODEC fideo-gynadledda yn cwmpasu ISDN ac IP
- Dau gamera â rheolaeth bell a chamera dogfennau
- Sgriniau, microffonau, recordydd fideo (VCR)
- Cyfleusterau rhannu data a rhaglenni
- Taflunydd a bwrdd gwyn rhyngweithiol electronig
- IP (H.323) gytûn
Faint mae’n ei gostio?
Rhwydwaith ISDN i sefydliadau allanol
Mae’n bosibl deialu i mewn drwy ddefnyddio rhwydwaith ISDN. Er mwyn cysylltu â’r system hon bydd angen i’r safle allanol feddu ar linell ffôn ISDN ac uned fideo-gynadledda, sydd â’r gallu i drosglwyddo gwybodaeth sain a fideo.
Nid yw’r prisiau isod yn cynnwys TAW a gallant newid wrth adolygu prisiau’n gyffredinol:
|
|
Hanner awr |
Awr |
|
Band Costau 1 |
£33.00 |
£66.00 |
|
Band Costau 2 |
£38.00 |
£76.00 |
|
Band Costau 3 |
£39.00 |
£78.00 |
|
Band Costau 4 |
£87.00 |
£174.00 |
|
Band Costau 5 |
£126.00 |
£252.00 |
|
Band Costau 6 |
£161.00 |
£322.00 |

