Canolfan y Cyfryngau
Offer
Mae Canolfan y Cyfryngau’n cynnig ardal stiwdio â mwy na 800 o droedfeddi sgwâr. O fewn yr ardal hon, mae nifer o gyfleusterau ar gael:
- Rig goleuo cyflawn, yn cynnwys cyflenwad pŵer gwedd sengl 63 amp i unedau darlledu allanol
- Seicloramau gwyn, glas a du
- Awtociw cyfrifiadurol
- 3 chamera sgrin lydan JVC â rheolaeth bell, doli a thrybeddau
- Aerdymheru cyflymder isel a sain isel

