Rydym yn estyn gwahoddiad i fyfyrwyr a staff, beth bynnag fo’u cefndir ffydd i fod yn rhan o’n rhaglen addoli, digwyddiadau a gweithgareddau amrywiol arall.
Rydym yn gobeithio y gall y Gaplaniaeth ddarparu cartref ysbrydol yn y Brifysgol.
Gallwn gynnig:
- gofal bugeiliol, grwpiau cymdeithasol a chymorth cymunedol
- cyfleoedd ar gyfer addoli
- darlithoedd a grwpiau trafod, pererindodau, encilion a theithiau
- y côr.
Caplaniaeth - Campws Caerfyrddin
Caplaniaeth - Campws Llambed
Mosg Llambed
Mae’r Mosg yn y Drindod Dewi Sant ar gampws Llambed, y tu ôl i Adeilad Sheikh Khalifa ar Stryd y Coleg.
Mae croeso cynnes yn eich disgwyl yn ysgtod gweddïau dydd Gwener am 1.00pm yn y gaeaf a 1.30pm yn yr haf.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Amjad Hussain ar 01570 424814 neu a.hussain@ydds.ac.uk

