Caplaniaeth - Campws Caerfyrddin
Croeso i’r Gaplaniaeth!
Yng nghalon y campws
Lleolir Capel y Brifysgol yng nghalon Campws y Drindod yn adeiladau gwreiddiol yr Hen Goleg, yn ein hatgoffa am werthoedd Cristnogol cariad a gwasanaeth sydd wedi bod yn ganolog ers sefydlu’r Coleg ym 1848. Fel unrhyw galon fyw sy’n curo, ei bwrpas ydy pwmpio ocsigen bwyiacaol o gwmpas y corff. Ein gobaith yw y cewch hyd i ysbrydoliaeth drwy weithgareddau’r Gaplaniaeth a fydd yn rhoi egni ar gyfer eich bywyd cyfan.
Calon dros Dduw
Bob bore o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor, mae cyfleoedd i addoli sy’n ein hagor ni i fywyd lletach a dyfnach nag y gallem ei ddychmygu, bywyd Duw ei hun. Down yn ddisgwylgar, gan obeithio cael ein llenwi ag ocsigen ysbrydol sy’n rhoi bywyd i’n cyrff a’n heneidiau. Cawn ein hanfon allan gyda rhodd, nid ar ein cyfer ni ein hunain yn unig, ond un i’w rhannu.
Calon dros bobl
Bodolwn ar gyfer ein gilydd. Mae’r Gaplaniaeth yn ceisio bod yn gymuned lle y gwerthfawrogir pob unigolyn, gan ddathlu eu rhoddion, yn gymuned lle mae cariad yn weladwy. Cynigir gofal bugeiliol i holl aelodau’r brifysgol beth bynnag yw eu cefndir crefyddol. Gobeithiwn y cawn ni, drwy ein gofal dros ein gilydd, gael rhyw gipolwg ar gariad diderfyn Duw dros bob unigolyn.
Calon dros y byd
Rydym yn byw mewn byd gwych, cymhleth a chyffrous, ond hefyd un sy’n doredig ac yn brifo. Mae’r Gaplaniaeth yn ceisio helpu pobl i ddod yn rhan o’r broses iacháu drwy weithredu dros faterion cyfiawnder cymdeithasol, yn enwedig rhai sy’n ymwneud â thlodi ac iawnderau dynol.
Calon wedi ei thrawsnewid
Os llwydda’r brifysgol yn ei gwaith, bydd unigolion yn gadael fel pobl sydd wedi cael eu newid. Nid mater syml o gael gradd yn unig yw hyn (er bod hynny’n beth da!) ond hefyd am gael ein cynysgaeddu mewn ystyr eang iawn. Mae’r Gaplaniaeth yn ceisio bod yn rhan o’r broses drawsnewidiol hon, gan atgoffa’r brifysgol bod gennym eneidiau yn ogystal â chyrff. Mae ein calonnau’n curo i gario ocsigen i bob cell er mwyn i ni gael bod yn gyfan gwbl fyw.
Cysylltu
Ainsley Griffiths
Ffôn: 01267 676607
Symudol: 07946 036936
E-bost: ainsley.griffiths@ydrindoddewisant.ac.uk

